Cafodd Rhian ei phenodi i rȏl Cydlynydd e-sgol ym Mai 2021. Yn ei rȏl gydag e-sgol, mae Rhian yn cynorthwyo’r tȋm i gydlynu’r prosiect mewn ysgolion ar draws De Cymru, gan sicrhau bod ysgolion, athrawon a disgyblion yn cael hyfforddiant ac arweiniad digonol i sicrhau bod y prosiect e-sgol yn un hwylus a llwyddiannus.
Mae Rhian wedi gweithio ym myd addysg ers 1997, fel athrawes Gymraeg uwchradd, Pennaeth y Gymraeg, Pennaeth y Chweched Dosbarth, Uwch Reolwr a Darlithydd ym maes Hyfforddiant Addysg Gychwynnol Athrawon.
Y tu allan i’r gwaith, mae Rhian yn mwynhau’r Celfyddydau ac mae’n byw gyda’i theulu ifanc yn nhre’r Sosban.