Ymlaen Gyda’r Dysgu

Sesiynau rhithiol Cymraeg 

Nod Ymlaen Gyda’r Dysgu yw darparu sesiynau Cymraeg i ddisgyblion 16 i 18 mlwydd oed barhau i siarad ac ymafer yr iaith. 

Mae’r sesiynau i ddysgwyr Cymraeg ond hefyd i’r rheiny sy’n teimlo eu bod angen rhywfaint mwy o hwb efo’u sgiliau ieithyddol. Maent i ddisgyblion ym mlynyddoedd 12 a 13 sydd ddim am barhau i astudio Cymraeg.

Dyma gyfle i ddatblygu hyder llafar Cymraeg a fydd o gymorth wrth ymgeisio am swyddi, addysg bellach neu brifysgol.

Gyda Llywodraeth Cymru am i bobol ifanc 16-25 oed barhau i dderbyn gwersi Cymraeg wedi iddynt gwblhau eu cyrsiau TGAU, mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac e-sgol yn cydweithio i wireddu’r Cynllun hwn.

Barn y dysgwyr

“Rydw i’n hoffi y cwrs achos rydw i’n gallu siarad Cymraeg gyda athrawes garedig. Hefyd, gyda’r iaith Cymraeg, gallwch chi wneud ffrindiau newydd, datblygu sgiliau newydd, a chael hwyl.”

Tomos, disgybl blwyddyn 12 wnaeth fod yn rhan o sesiynau Ymlaen Gyda’r Dysgu yn ystod Tymor yr Hydref, 2022.

Beth yw Ymlaen Gyda’r Dysgu?

  • Sesiynau sgwrsio i ddatblygu hyder mewn siarad Cymraeg yw Ymlaen Gyda’r Dysgu.
  • Mae’r sesiynau i ddisgyblion sydd ddim yn parhau gyda Cymraeg Lefel A
  • Mae’r sesiynau yn rai hwyliog gyda Tiwtor Canolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
  • 1 sesiwn rhithiol yr wythnos i ddisgyblion Blwyddyn 12 a 13.
  • Tystysgrif a phecyn e-sgol i longyfarch y rhai sy’n llwyddiannus.*

*Rhaid mynychu 80% o’r sesiynau i fod yn llwyddiannus.

Sesiynau Ymlaen Gyda’r Dysgu

    • 1 sesiwn yr wythnos dros Teams
    • Datblygu sgwrs ar ôl gwrando ar gerddoriaeth neu gwylio fideo hwylus Cymraeg
    • Tiwtor o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
    • Sesiynau yn Nhymor yr Hydref 2023 a Thymor y Gwanwyn 2024

Cofrestru

Llenwa’r ffurflen yma i gofrestru ar gyfer Ymlaen Gyda’r Dysgu. Byddwn mewn cyswllt yn fuan.

Barn y dysgwyr

“Roedd sesiynau Ymlaen Gyda’r Dysgu wedi rhoi’r cyfle i mi wella fy sgiliau yn ogystal â rhoi mwy o hyder i mi o fewn yr iaith o ddydd i ddydd ac i’r brifysgol.”

Tili, disgybl blwyddyn 12 wnaeth fod yn rhan o sesiynau Ymlaen Gyda’r Dysgu yn ystod Tymor y Gwanwyn, 2023.

Cwestiynau Cyffredin
Beth yw Ymlaen Gyda’r Dysgu?

Mae prosiect Ymlaen Gyda’r Dysgu yn darparu sesiynau rhithiol i ddysgwyr ail iaith ym mlynyddoedd 12 a 13 sydd ddim am barhau i astudio Lefel A Cymraeg Ail Iaith. Mae’r cynnig yna yn bennaf i ddysgwyr Cymraeg ond hefyd i’r rheiny sy’n teimlo eu bod angen rhywfaint mwy o hwb efo’u sgiliau ieithyddol.

Gyda Llywodraeth Cymru am i bobol ifanc 16-25 oed barhau i dderbyn gwersi Cymraeg wedi iddynt gwblhau eu cyrsiau TGAU, mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac e-sgol yn cydweithio i wireddu’r Cynllun hwn.

Fe wnaeth sesiynau peilot redeg ym Mhowys a Cheredigion cyn ehangu dros Gymru.

Pa mor aml mae’r sesiynau?

Mae’r sesiynau yn cael eu cynnal unwaith yr wythnos, ar amser sy’n siwtio’r rhan fwyaf o’r disgyblion.

Sut mae’r sesiynau yn gweithio?

Bydd disgyblion yn ymuno â chyfarfod Teams gan ddefnyddio eu cyfrif Hwb, mewn ystafell yn eu hysgol. Bydd Tiwtor Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn dysgu’r sesiynau.

Beth yw’r buddion o wneud cwrs Ymlaen Gyda’r Dysgu?
  • Cyfle gwych i ddysgwyr ail iaith sydd eisiau parhau i ddysgu’r Gymraeg neu ddatblygu hyder yn eu defnydd o’r iaith.
  • Gall dysgwyr sy’n deall mwy nag un iaith feddwl yn fwy creadigol a mwy hyblyg.
  • Mae cyflogwyr yn chwilio am staff sydd â sgiliau dwyieithog, Cymraeg a Saesneg.
  • Ar gyfartaledd, mae pobl ddwyieithog yn ennill rhwng 8 a 10% yn fwy o gyflog oherwydd eu gallu i weithio mewn dwy iaith.
Sut alla i roi fy enw ymlaen i wneud Ymlaen Gyda’r Dysgu?

Llenwa’r ffurflen fer yma, ac fe fyddwn mewn cyswllt yn fuan!

Eisiau trafod ymhellach?

Os oes gyda ti fwy o gwestiynau neu eisiau trafod ymhellach, cysyllta gyda Siwan ar siwan.richards@e-sgol.cymru