Mae sector Cynradd e-sgol yn cynnig darpariaeth ar lein, gan gyfuno sesiynau sy’n canolbwyntio ar y cwricwlwm i ddysgwyr gyda dysgu proffesiynol mewn meysydd lle gall athrawon fod yn datblygu hyder neu’n mireinio’u harferion.
Mae sector Uwchradd e-sgol yn darparu datrysiadau dysgu hybrid cynhwysfawr, gan sicrhau addysg o ansawdd uchel a chyfleoedd i fyfyrwyr gydweithio ledled Cymru.
Mae Carlam Cymru yn cynnig sesiynau adolygu dwyieithog rhad ac am ddim i ddysgwyr TGAU a Safon Uwch, yn ogystal â strategaethau llesiant meddyliol.
Rydym yn croesawu sgyrsiau gydag ysgolion, Awdurdodau Lleol, a Chonsortia i archwilio partneriaethau - boed rhwng ysgolion uwchradd i rannu ac ehangu darpariaeth, neu gydag ysgolion cynradd i gydweithio ar ystod o brosiectau arloesol.
Os ydych chi eisiau cysylltu yna cwblhewch y ffurflen isod neu ebostiwch ni ar ymholiadau@e-sgol.cymru




