Staff

Glenda Haf Jones

Glenda Haf Jones

Ymunodd Glenda â thîm e-sgol fel Arweinydd Gogledd Cymru ym mis Ebrill 2024. Yn ei rôl gydag e-sgol, mae Glenda yn cynorthwyo’r tîm i gydlynu’r prosiect mewn ysgolion ar draws Gogledd Cymru, gan sicrhau bod ysgolion, athrawon a disgyblion yn cael hyfforddiant ac...

Huw Gruffydd Davies

Huw Gruffydd Davies

Penodwyd Huw fel Arweinydd Cynradd cyntaf e-sgol ym mis Tachwedd 2023 i arwain ar y datblygiadau cyffrous yn hanes y project. Cyn ymuno ag e-sgol, bu Huw yn Bennaeth ar Ysgol Gynradd Rhos Helyg, Ceredigion. Yn ei amser hamdden, mae’n mwynhau amrywiaeth o chwaraen yn...

Siwan Richards

Siwan Richards

Ymunodd Siwan â thîm e-sgol fel Rheolwr Prosiect Ymlaen gyda’r Dysgu ym mis Chwefror 2023. Mae’r rôl yn hybu sesiynau magu hyder a hogi sgiliau siarad Cymraeg disgyblion 16-18 oed, dan nawdd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol mewn partneriaeth ag e-sgol. Siwan sy’n...

Nia Jones

Nia Jones

Dechreuodd Nia yn ei rôl fel Cydlynydd Gweithredol e-sgol ym mis Gorffennaf 2022. Ymhlith ei dyletswyddau, mae Nia yn cydlynu'r prosiect Carlam Cymru yn genedlaethol, yn cydlynu cynhadledd flynyddol e-sgol, ac yn rheoli'r cyfryngau cymdeithasol a chysylltiadau...

Llifon John Ellis

Llifon John Ellis

Penodwyd Llifon yn Bennaeth Strategol e-sgol ym mis Ebrill 2022 wedi iddo dreulio 12 mlynedd fel athro uwchradd ac uwch arweinydd mewn ysgol gydol oes yng nghanolbarth Cymru gyda chyfrifoldebau dros y Chweched Dosbarth a’r adran Gymraeg. Bu’n gweithio’n agos â...

Rhian Rees-Thorne

Rhian Rees-Thorne

Cafodd Rhian ei phenodi i rȏl Cydlynydd e-sgol ym Mai 2021. Yn ei rȏl gydag e-sgol, mae Rhian yn cynorthwyo’r tȋm i gydlynu’r prosiect mewn ysgolion ar draws De Cymru, gan sicrhau bod ysgolion, athrawon a disgyblion yn cael hyfforddiant ac arweiniad digonol i sicrhau...

Matt Edwards

Matt Edwards

Cafodd Matt ei secondio i rôl cynghorydd cymorth technegol TGCh e-sgol rhan-amser yn Hydref 2020. Gan weithio’n agos a’r tîm o gydlynwyr, ei brif rôl yw darparu cyngor strategol ac arweiniad technegol i dîm prosiect e-sgol, yn sgil ei brofiad helaeth o weithio gyda...

Stephen Williams

Stephen Williams

Cafodd Stephen ei secondio i rôl cydlynydd e-sgol ym Medi 2020 o ERW cyn cael ei benodi’n llawn amser yn Ebrill 2022. Yn ei rôl gydag ERW, roedd yn cynorthwyo ysgolion ar draws y rhanbarth i ddatblygu dysgu digidol a diwygio’r cwricwlwm. Fe rhan o’i gyfrifoldebau...

Gwion Dafydd

Gwion Dafydd

Roedd Gwion yn un o sylfaenwyr e-sgol pan gafodd ei lansio yng Ngheredigion yn 2018, ac mae’n goruchwylio’r prosiect erbyn hyn. Cafodd Gwion ei benodi’n Rheolwr Corfforaethol Atebolrwydd a Chynnydd yng Ngheredigion ym Medi 2018, ar ôl gweithio o fewn yr awdurdod fel...