Yng Nghynhadledd e-sgol 2025, rhannwyd y gwahanol fentrau y mae e-sgol yn eu cynnig, yn ogystal â siaradwyr ac athrawon yn rhannu eu profiadau a'u gwybodaeth am ddefnyddio'r cynnig.
Cynhaliwyd y Gynhadledd ar 10 Gorffennaf yng Nghanolfan Fusnes Conwy, a daeth ag athrawon, ymarferwyr addysg a rhanddeiliaid ynghyd.
Dr Cynog Prys, Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor, oedd y Siaradwr Gwadd, gan rannu ei wybodaeth am Addysg Gymreig yn yr Oes Ddigidol.

