Ers ei sefydlu yn 2018, mae e-sgol wedi datblygu i fod yn fenter genedlaethol sy'n cefnogi ysgolion, ymarferwyr a dysgwyr ledled Cymru drwy ddulliau arloesol o ddysgu ar-lein a dysgu hybrid.
Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, mae e-sgol wedi ymrwymo i sicrhau ecwiti mewn addysg drwy dechnoleg, gan sicrhau nad yw lleoliad daearyddol, maint ysgol nac amgylchiadau lleol yn cyfyngu ar y cyfleoedd addysgol sydd ar gael i ddysgwyr.
Mae ein Cynllun Strategol 2026–2029 yn amlinellu gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer y tair blynedd nesaf, gan adeiladu ar ein llwyddiannau hyd yma ac ymateb i anghenion esblygol addysg yng Nghymru.
Wedi'i seilio ar ein gwerthoedd craidd, sef Ansawdd, Ecwiti a Chydweithio, mae'r Cynllun yn nodi tair blaenoriaeth strategol allweddol:
Ehangu mynediad at gyfleoedd addysgol o ansawdd uchel drwy ymestyn cyrhaeddiad e-sgol, datblygu partneriaethau newydd ac archwilio dulliau arloesol o addysgu a dysgu ledled Cymru.
Gwella ansawdd, cysondeb ac effaith ein darpariaeth bresennol yn barhaus drwy werthuso effeithiol, arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac ymgysylltu ystyrlon â dysgwyr, ymarferwyr a phartneriaid.
Datblygu menter genedlaethol gynaliadwy a chadarn drwy lywodraethu effeithiol, partneriaethau cryf, dysgu proffesiynol ac ymrwymiad parhaus i arloesi.
Gyda'i gilydd, bydd y blaenoriaethau hyn yn llywio ein gwaith ar draws addysg gynradd ac uwchradd, dysgu proffesiynol, adnoddau digidol a darpariaeth gydweithredol, gan sicrhau bod e-sgol yn parhau i wneud cyfraniad ystyrlon i dirwedd addysg Cymru.

[Lawrlwytho'r Cynllun Strategol – Cymraeg]
[Lawrlwytho'r Cynllun Strategol – Saesneg]
Mae e-sgol yn gwerthuso’i waith yn erbyn y cynllun datblygu’n flynyddol er mwyn mesur yr effaith y mae’r project yn ei gael ar y tirlun addysgol yng Nghymru. Gellir lawrlwytho copi o Adroddiad Blynyddol eleni isod.
Yn barod i ymuno â rhwydwaith e-sgol neu â chwestiynau? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!

