e-sgol logo

Carlam Cymru

Grymuso Dysgwyr gydag Adnoddau Adolygu Cynhwysfawr

Beth yw Carlam Cymru?

Casgliad o fideos sy’n cefnogi myfyrwyr gyda’u hadolygu yw Carlam Cymru. Ceir fideos ar dair lefel - TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch - mewn amrywiaeth eang o bynciau, yn Gymraeg a Saesneg. Mae’r adnoddau yn ategu gwaith gwych athrawon ledled Cymru trwy gynnig cefnogaeth ychwanegol i ddysgwyr sy’n astudio ar gyfer arholiadau. Gall myfyrwyr ddefnyddio’r adnoddau i astudio ac adolygu’n annibynnol.

Mae Carlam Cymru yn comisiynu fideos eraill yn ychwanegol at y rhai pwnc-benodol yn ôl yr angen. Ceir cyfres o fideos ar Sgiliau Adolygu ac ar y thema Lles. Mae’r fideos lles yn canolbwyntio ar bwysigrwydd gofalu am iechyd meddwl yn ystod cyfnod yr arholiadau.

Beth sydd angen i chi ei wybod am Carlam Cymru

FAQs

Pwy sy’n creu’r adnoddau?

Cyflogir athrawon profiadol o bob cwr o Gymru i greu a chyflwyno fideos adolygu mewn amrywiaeth eang o bynciau sy’n mynd i’r afael â rhannau penodol o’r cyrsiau TGAU a Safon Uwch, gyda’r nod o gynorthwyo myfyrwyr i adolygu’r pethau cywir ac i anelu am y marciau uchaf.

Rydyn ni’n recriwtio athrawon o bryd i’w gilydd yn ôl yr angen. Os ydych chi’n dysgu mewn ysgol uwchradd ac yn awyddus i gyfrannu at y prosiect hwn, cysylltwch â ni

Sut mae dod o hyd i’r fideos?

Ceir hyd i’r holl fideos pwnc-benodol mewn cronfa bwrpasol - cronfa fideos Carlam Cymru. Mae’r adnoddau ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw un sy’n ymweld â’r gronfa honno.

Pa mor hir ydy’r fideos?

Fideos tua 45 munud o hyd yw’r mwyafrif. Gall dysgwyr eu gwylio ar amser sy’n gyfleus iddyn nhw, stopio neu oedi’r fideos, mynd yn ôl ac ymlaen a gwylio cymaint o weithiau ag y mynnant. Gellir hefyd lawrlwytho’r sleidiau PowerPoint a welir yn y fideos fel ffeiliau ar wahân i’w pori ar unrhyw adeg.

Ydy’r fideos hyn ar gael i ysgolion eu defnyddio?

Ydyn. Mae Carlam Cymru yn cynnig adnodd gwych i ysgolion. Gall athrawon parhaol eu plethu i mewn i wersi arferol neu gellir eu defnyddio fel gwersi cyfan pan fydd athrawon yn absennol.

Beth yw’r cefndir i’r prosiect Carlam Cymru?

Yn dilyn y cyfnod clo, roedd Llywodraeth Cymru yn awyddus i gynnig cefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr Cymru a oedd yn astudio ar gyfer arholiadau. Comisiynwyd e-sgol i fynd i’r afael â hyn a dyna gychwyn ar y prosiect Carlam Cymru, gyda’r fideos cyntaf yn cael eu cyhoeddi yn nhymor y gwanwyn 2021. Ers hynny, mae Carlam Cymru wedi mynd o nerth i nerth.

Beth yw Lefel Nesa?

Menter a arweinir gan Lywodraeth Cymru yw Lefel Nesa. Sefydlwyd y fenter gyda’r nod o sicrhau bod dysgwyr ôl-14 ac ôl-16 ledled Cymru yn ymwybodol o’r holl adnoddau adolygu sydd ar gael i'w cefnogi yn ystod cyfnod yr arholiadau. Mae sawl corff yn cydweithio ar y fenter, yn cynnwys e-sgol/Carlam Cymru.

© 2025 e-sgol. Cedwir Pob Hawl.