Ychwanegir SESIYNAU ADOLYGU TGAU NEWYDD i’n casgliad o adnoddau y tymor hwn – pynciau craidd 2-27 Hydref / pynciau di-graidd 6-30 Tachwedd. Sgroliwch i lawr i Recordiadau Newydd!!!

Cynhelir un SESIWN ADOLYGU FYW fesul pwnc TGAU yn ystod wythnos olaf mis Hydref (craidd) ac wythnos olaf mis Tachwedd (di-graidd). Bydd y sesiynau hyn yn ailymweld â chynnwys y RECORDIADAU NEWYDD o’r cyfnod yn gynharach yn y mis. Bydd mynychu’r digwyddiadau byw yn gyfle i chi ofyn cwestiynau drwy’r sianel holi ac ateb (Q&A).

Yn newydd eleni: cyfres o 4 DIGWYDDIAD BYW ar y thema Lles yn ystod mis Hydref – gweler y tabl isod.

Recordiadau

Porwch drwy’r opsiynau isod i gael mynediad at gyfres o recordiadau ac adnoddau ar draws amrywiaeth o bynciau craidd a di-graidd.

Sesiynau Lles

Dydd Mawrth, 10 Hydref

17:00-17:45

Dydd Mawrth, 17 Hydref

17:00-17:45

Dydd Mawrth, 24 Hydref

17:00-17:45

Dydd Mawrth, 31 Hydref

17:00-17:45

Sesiwn Lles 1 Sesiwn Lles 2 Sesiwn Lles 3 Sesiwn Lles 4
Delio â straen a gorbryder – eich lles chi Detox Digidol Ma cwsg yn bwysig – ydych chi’n cael digon? Tips i adolygu yn llesol

Does dim angen cofrestru. Cliciwch ar y ddolen i fynd i mewn i’r digwyddiad byw.

DIGWYDDIADAU BYW TGAU - Pynciau Craidd : Dydd Llun 23 - Dydd Iau 26 Hydref

Dydd Llun, 23 Hydref Dydd Mawrth, 24 Hydref Dydd Mercher, 25 Hydref Dydd Iau, 26 Hydref
17:30-18:15 TGAU Cymraeg TGAU Mathemateg (Uwch) TGAU Bioleg TGAU Cemeg
18:30-19:15 TGAU Ffiseg TGAU Mathemateg (Canolradd) TGAU Cymraeg Ail Iaith

Does dim angen cofrestru. Cliciwch ar y ddolen i fynd i mewn i’r digwyddiad byw.

Carlam Cymru

Os ydych chi’n athrawon cyfredol ac â diddordeb mewn cefnogi a chyflwyno sesiynau adolygu Carlam Cymru yn y dyfodol, ewch i’r dudalen Swyddi Gwag.