Pwnc: Llywodraeth a Gwleidyddiaeth
Pa brofiadau …. Gwych. Mae wedi caniatáu inni gyflwyno opsiwn ôl-16 newydd yng ngogledd y Sir, yn ogystal â’n Hysgol Uwchradd yn Llanidloes. Mae wedi bod yn wych addysgu ac ymgysylltu â disgyblion o ysgolion eraill ar fformat sydd erbyn hyn yn teimlo bron fel petaem ni’n addysgu nhw yn yr un dosbarth – gyda’r holl drafod a thynnu coes arferol. Mae cymorth technolegol e-sgol wedi bod yn wych, ac mae’r dechnoleg bersonol a ddarparwyd ar gyfer y dysgwyr wedi bod yn fuddiol iawn iddyn nhw hefyd! Dwi hefyd yn meddwl bod addysgu ar lefel sirol wedi gwneud hi’n haws inni drefnu’n hystingau ar gyfer yr holl ymgeiswyr seneddol yn etholiad cyffredinol mis Tachwedd, i ymweld â’r Senedd ym Mae Caerdydd, gan gwrdd ag Aelod y Senedd dros Sir Drefaldwyn, a chwrdd â’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.
Pa gyfleoedd…
Pa gyngor… Chwarae gyda’r dechnoleg i ddechrau, a sicrhau bod gennych gyswllt personol â Gareth, yn hytrach na dibynnu ar rywun yn y canol. Wrth addysgu, defnyddio enwau’r dysgwyr yn aml – yn amlach na gydag addysgu arferol, fel eu bod yn gwybod eich bod yn siarad â nhw. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael hwyl – dwi’n dweud jôc wrthyn nhw ar ddiwedd bob sesiwn, ac roedd hynny’n help mawr i dorri’r garw ar y dechrau!