Pwnc: Cymraeg Ail Iaith
Pa brofiadau …. Positif iawn ar y cyfan. Dwi wedi mwynhau defnyddio’r dechnoleg a datblygu’r timau gwahanol (Teams athrawon yn yr ysgol, gyda Cheredigion, y grŵp eteach ei hun). Mae wedi bod yn wych gallu sicrhau bod yr holl fyfyrwyr hyn sydd am barhau i astudio Cymraeg yn Ne Powys wedi cael y cyfle i wneud hynny.
Pa gyfleoedd… Gallant ddal ati i astudio Cymraeg o’u cymunedau eu hunain, lle byddai hynny wedi bod yn amhosib fel arall. Maent wedi cael y cyfle i gwrdd â phobl newydd, a datblygu rhwydweithiau newydd. Mae’r rhain yn sgiliau pwysig iawn i bobl ifanc eu datblygu.
Pa gyngor… Cyfathrebwch! A daliwch ati. Byddwch yn agored eich meddwl, yn barod i addasu, ac yn hyblyg. Sut allwch chi addasu’ch addysgeg i siwtio’r dechnoleg? A sut allwch chi ddefnyddio’r dechnoleg i siwtio’ch addysgeg? Mae hwn yn gyfle enfawr!