e-sgol logo

Astudiaeth Achos

Astudiaeth Achos Athro

Sarah Michael

Athro yn Ysgol Calon Cymru
Ysgol Calon Cymru Logo

Pwnc: Seicoleg

Ers pryd ydych chi wedi bod yn addysgu ar-lein a gydag e-sgol?

Rwyf wedi bod yn addysgu ar-lein gydag e-sgol ers rhai misoedd gyda myfyrwyr o bedair ysgol wahanol yn ymuno â’r gwersi . Cyn hyn, gwnes i rywfaint o ddysgu ar-lein yn ystod y pandemig ac wrth ddysgu yn Bangkok pan oedd llifogydd a bu’n rhaid i mi ddysgu ar-lein am ychydig fisoedd.

Sut oeddech chi’n teimlo pan ofynnwyd i chi ddysgu trwy e-sgol?

Mae addysgu ar-lein wedi bod yn broses ddysgu i mi fy hun, o broblemau technolegol ar y dechrau i ddysgu sut i ddefnyddio meddalwedd newydd. Ond nid yw’r gwaith o gynllunio gwersi wedi newid. Dechreuais gyda chyflwyniadau hir ac roedd hyn yn anodd i mi a fy myfyrwyr. Wrth ddod yn fwy hyderus gyda’r dechnoleg, rwy’n gofyn i’r myfyrwyr wneud mwy a chyflwyno eu gwaith. Mae creu cwisiau sy’n galluogi myfyrwyr i ymgysylltu hefyd yn ddefnyddiol. Mae meithrin perthynas gyda’r myfyrwyr yn wahanol ar-lein felly rwy’n gweithio ar ymddiriedaeth a pharch gyda’r myfyrwyr fel eu bod yn cael eu hysgogi i wneud eu gwaith. Mae rhoi adborth unigol ar dasgau neu roi sylwadau ar waith rhagorol yn ddefnyddiol.

Beth ydych chi wedi’i ddysgu o addysgu ar-lein?

Rwyf wedi dysgu rhai sgiliau technoleg gwerthfawr ac ‘rwyf bellach yn eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Er enghraifft, mae cofnodi adborth llafar ar dasgau yn llawer cyflymach a mwy effeithiol. Mae addysgu ar-lein wedi fy helpu i weithio’n fwy craff, er enghraifft byddaf yn rhoi tasg i’r myfyrwyr wrando ar bodlediad, creu ffurflen ar-lein gyda chwestiynau dilynol sydd wedyn yn marcio eu hunain.

Pa awgrymiadau fyddech chi’n eu cynnig i athrawon sy’n newydd i addysgu ar-lein.

Peidiwch â phoeni gormod am y dechnoleg. Gwnewch yr hyn a allwch a does dim angen mynd dros ben llestri. Parhewch â rhai tasgau ysgrifenedig oherwydd bydd rhaid i fyfyrwyr ysgrifennu yn yr arholiad. Gofynnwch iddynt dynnu llun o’u gwaith a’i lwytho i fyny i’w farcio. Hefyd, gofynnwch am adborth gan eich myfyrwyr am gyflymder y gwersi oherwydd mae’n haws mesur hyn yn ystod gwersi wyneb yn wyneb nag ar-lein.

© 2024 e-sgol. Cedwir Pob Hawl.