e-sgol logo

Astudiaeth Achos

Astudiaeth Achos Dysgwr

Disgyblion

Myfyriwr yn Ysgol Llanfyllin
Ysgol Llanfyllin Logo

Pwnc – Mathemateg Bellach

Beth wnaeth iti benderfynu dewis astudio cwrs e-sgol, a beth yw’r manteision? Mi ddewisais i wneud hynny, oherwydd pan welais i’r cwrs, roedd y gwersi’n edrych yn dda, a dyna’r unig ffordd o wneud y pwnc ro’n i am ei wneud (Mathemateg Bellach).  Un o’r prif fanteision ydy bod popeth yn ddigidol, ac felly mae’n hawdd iawn imi fynd drwy fy holl waith ar-lein, ac mae’n helpu gyda’r cyfathrebu rhwng yr athro a’r myfyriwr yn fy marn i, achos mae’n hawdd dangos i dy athro ar-lein ble rwyt ti’n cael trafferth.  Yn olaf, mae’n dda iawn i’w ddefnyddio wrth ddysgu  gartref, am nad ydy’r gwersi’n wahanol i’r arfer.

Pa amheuon oedd gen ti am astudio cwrs e-sgol, a sut wyt ti’n teimlo am rheiny nawr? Ro’n i’n meddwl ar y dechrau y byddai’n teimlo’n od cael fy ngwylio gan fy athro dros gysylltiad fideo, ond ar ôl y wers gyntaf roedd yn teimlo’n naturiol a ddim yn od o gwbl.  Ro’n i hefyd yn meddwl y byddai’r tabledi’n anoddach i ysgrifennu arnyn nhw, ond maen nhw’n iawn ar gyfer ysgrifennu, ac mae’n union fel fersiwn ddigidol o lyfr.

Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i fyfyrwyr eraill sy’n ystyried astudio cwrs/cyrsiau e-sgol? Mi fuaswn i’n dweud ‘cer amdani’,  mi all fod ychydig yn od a gwahanol i ddechrau, ond mae’n gyfle gwych ddylai neb ei anwybyddu.  Dwi’n meddwl ddylen nhw ei drin fel opsiwn arferol, achos dydy bod ar-lein ddim gwahanol i gael gwers wyneb yn wyneb, am fod pawb yr un fath â ti.  Yn olaf, mae’n rhaid iti fod yn barod i fod ychydig yn fwy annibynnol.

© 2025 e-sgol. Cedwir Pob Hawl.