Cwestiynau Cyffredin

Myfyrwyr

Your Title Goes Here

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.

Alla’i fynd â fy ngliniadur gatref?

Gallwch, mi allwch fynd â’r gliniadur gartref i’w ddefnyddio ar gyfer aseiniadau a gwaith cartref.  Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siŵr bod y gliniadur wedi’i wefru a’i fod yn barod ar gyfer pob gwers.

Beth sy’n digwydd os fydda i’n anghofio fy ngliniadur ar gyfer gwers?

Fel rhan o’r cytundeb e-sgol dylai’r gliniadur fod gyda chi ar gyfer pob gwers.  Os byddwch chi’n anghofio’ch gliniadur, mi allwch chi gymryd rhan yn y wers drwy rannu efo myfyriwr arall.  Bydd angen ichi ddal i fyny â’r gwaith ar eich gliniadur eich hun.

Sut alla’i siarad efo fy athro/athrawes rhwng gwersi os nad ydw i’n deall y gwaith?

Mae’r cyfleuster sgwrsio ar Teams yn caniatáu ichi ofyn cwestiynau i’ch athro/athrawes tu allan i amserau gwersi.  Mae help ar gael yn eich ysgol eich hun hefyd.

Alla’i ddefnyddio fy ngliniadur ar gyfer gwaith arall?

Gallwch, mi allwch chi drefnu a chadw gwaith arall ar eich gliniadur.

Alla’i wylio’r gwersi eto?

Os ydy’r wers wedi’i recordio, gallwch wylio’r wers eto.  Cedwir aseiniadau a gwaith ar Teams.

Pa help fydd ar gael i ddisgyblion sy’n newydd i e-sgol?

Bydd pob disgybl yn cael sesiwn hyfforddiant gan gydlynydd e-sgol cyn eu sesiwn gyntaf.  Byddwn hefyd yn gweithio’n agos â’ch technegydd ysgol er mwyn iddyn nhw allu’ch helpu.

Sut fydda i’n adolygu ar gyfer cwrs e-sgol?

Mae cwrs Safon Uwch e-sgol yr un fath ag unrhyw gwrs Safon Uwch arall, ac mi fyddwch chi’n adolygu yn yr un ffordd, gan ddefnyddio’r strategaethau a ddatblygwyd gennych yn ystod eich TGAU.

Athrawon

Your Title Goes Here

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.

Beth yw’r prif wahaniaethau rhwng addysgu rhithwir ac addysgu wyneb yn wyneb?

Bydd llawer o’r profiadau yr un fath; darperir offer a hyfforddiant i sicrhau bod y profiad mor ddidrafferth â phosib.  Y prif wahaniaeth yw’r defnydd o amrywiaeth o feddalwedd, drwy Hwb, i hwyluso’r dysgu.

Sut fydd disgyblion yn cyflwyno’u gwaith cartref?

Mae Teams yn gwneud hi’n hawdd i athrawon osod gwaith cartref, ac i fyfyrwyr ei gwblhau ac yna’i gyflwyno.  Hefyd, gall athrawon osod dyddiadau cwblhau penodol, a gall y disgyblion weld y marcio pan ddychwelir y gwaith. 

 

Sut fydda i’n darparu adborth ar aseiniadau a gwaith cartref?

Bydd gan bob athro liniadur rhyngweithiol, sy’n caniatáu i staff farcio dogfen yn electronig.  Dychwelir y gwaith yn electronig, a chedwir cofnod o’r gwaith ar y system.  Bydd hyn yn cynorthwyo disgyblion i gadw cyfrif o’r gwaith a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn academaidd. 

Beth sy’n digwydd os byddaf i’n colli gwersi?

Os ydych chi’n gwybod ymlaen llaw na fyddwch chi’n bresennol mewn gwers, gallwch recordio’r cynnwys i ddisgyblion gael mynediad ato, yn ogystal â gosod gwaith ar eu cyfer.  Mae hwn yn ddull mwy hwylus na’r system draddodiadol.  Hefyd, os byddwch chi’n colli gwers ar y funud olaf, gallwch osod gwaith i’r disgyblion ei gwblhau gartref ar unrhyw adeg.

A fydd y dechnoleg yn gweithio?

Cyn unrhyw gyfres o wersi, bydd y dechnoleg yn cael ei phrofi gan dechnegwyr ysgolion gwahanol, yn ogystal â gan yr athrawon a fydd yn cyflwyno’r gyfres o wersi, a chan gydlynydd y prosiect.  Bydd hyn yn digwydd ar sawl achlysur.  Mae’r feddalwedd yn cael ei defnyddio mewn nifer o leoliadau ar draws y byd.  Mae’r dechnoleg wedi gweithio’n dda mewn lleoliadau yng Ngheredigion, Powys a Gogledd Cymru dros y deunaw mis diwethaf.

Pa gymorth fydda i’n ei gael gyda’r dechnoleg?

Mae gan e-sgol gydlynwyr prosiect a fydd wrth law i’ch cynorthwyo gyda’r holl dechnoleg.  Hefyd, bydd technegydd yr ysgol yno i’ch helpu.

Sut fydda i’n gorfod addasu fy arddull addysgu ar gyfer dysgu ar-lein?

Mae cynnwys gwersi traddodiadol a gwersi e-sgol yn debyg iawn.  Does dim rhaid i’r arddull addysgu newid rhyw lawer chwaith.  Rhoddir mwy o bwyslais ar elfen gyfathrebu’r cwrs wrth gwrs, yn enwedig o ran gwneud hi’n glir at bwy mae’r cwestiynau wedi’u hanelu.  Mae hyfforddiant ar gael i athrawon yn hyn o beth.  Mae fideos a thiwtorials ar gael.

Pa gymorth fydda i’n ei gael gan yr ysgol ac e-sgol?

Bydd hyfforddiant ar gael i staff cyn i’r gwersi ddechrau.  Bydd help rheolaidd ar gael gan gydlynydd y prosiect.  Bydd canllawiau ar gyfer defnyddio’r system ar gael ar ffurf papur a fideos. 

Rhieni/Gwarcheidwaid

Your Title Goes Here

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.

A fydd athrawon yn gallu helpu fy mhlentyn os na fydd yn deall rhywbeth?

Fel rhan o’r feddalwedd, gellir gofyn cwestiynau i athrawon drwy gyfrwng fforwm, a thrwy dogfennau penodol.  Mae rhai ysgolion yn cynnal sesiynau tiwtorial yn yr ysgol i helpu disgyblion.

Sut fydd fy mhlentyn yn cyfathrebu â’r athrawon?

Mae’r feddalwedd yn cynnwys fforwm, sy’n gweithredu fel e-bost ar gyfer athrawon.

Sut fydd fy mhlentyn yn dod i adnabod disgyblion eraill?

Mae disgyblion yn dod i adnabod ei gilydd yn ystod y sesiynau fideo-gynadledda o fewn y gwersi, yn ystod trafodaethau.  Hefyd, bydd y disgyblion yn cael sesiynau wyneb yn wyneb yn ystod y flwyddyn academaidd i ddod i adnabod ei gilydd.

Beth sy’n digwydd os bydd fy mhlentyn yn colli gwersi?

Mae’r system yn cynnwys cyfleuster sy’n caniatáu i wersi gael eu recordio.  Felly, gall disgyblion wylio unrhyw wersi maent wedi’u colli’n nes ymlaen.  Hefyd caiff nodiadau a wnaed yn ystod y wers eu cofnodi ar y system.

Beth am nosweithiau rhieni ac adroddiadau?

Bydd y noson rieni ar gyfer y pwnc mae eich plentyn yn ei astudio drwy e-sgol yn rhan o amserlen yr ysgol sy’n darparu’r pwnc.  Mae’r un peth yn wir am adroddiadau.  Os nad yw’r athro wedi’i leoli ar yr un campws â’ch plentyn, gellir creu dolen electronig fel na fydd angen ichi deithio.

Beth yw’r drefn o ran sicrhau ansawdd gwersi e-sgol?

Bydd ansawdd y ddarpariaeth yn cael ei sicrhau yn yr un ffordd â gwersi traddodiadol, drwy ymweliadau monitro a chraffu mewnol. 

Sut fydd fy mhlentyn yn cyflwyno aseiniadau a gwaith cartref?

Mae’r feddalwedd a ddefnyddir yn gwneud hi’n hawdd i athrawon osod gwaith cartref, ac i fyfyrwyr ei gwblhau a’i gyflwyno.  Hefyd, gall athrawon osod dyddiadau cwblhau penodol, a gall y disgyblion weld y marcio pan ddychwelir y gwaith. 

Sut mae aseiniadau a gwaith cartref yn cael eu marcio?

Bydd gan bob athro liniadur rhyngweithiol, a fydd yn caniatáu i staff farcio dogfen yn electronig.  Dychwelir y gwaith yn electronig, a chedwir cofnod o’r gwaith ar y system.  Bydd hyn yn cynorthwyo disgyblion i cadw cyfrif o’r gwaith a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn academaidd. 

Cwestiwn ddim ar y Rhestr?

Os nad yw eich cwestiwn wedi’i restru, mae croeso ichi gysylltu â ni gyda’ch ymholiad.