Diolch am ymweld â gwefan e-sgol. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn nodi sut mae e-sgol (“Ni”) yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn ymweld â’r wefan. Pan fyddwn yn dweud ‘gwybodaeth bersonol’ yn yr hysbysiad hwn, rydym yn golygu gwybodaeth sy’n ymwneud â chi ac y gellir ei defnyddio i’ch adnabod.
Nid yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i wefannau eraill y gellir cael mynediad iddynt trwy wefan e-sgol. Rydym yn eich annog i ddarllen yr hysbysiadau preifatrwydd ar y gwefannau eraill rydych yn ymweld â nhw.
Darllenwch y canlynol yn ofalus i ddeall ein safbwyntiau a’n harferion ynglŷn â’ch gwybodaeth bersonol a sut y byddwn yn ei thrin.
Mae e-sgol yn brosiect dysgu cyfunol, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, i ddarparu cyfleoedd dysgu a dysgu rhithwir i ddisgyblion gan ddefnyddio dulliau dysgu uniongyrchol, amser real ac rhyngweithiol.
Mae e-sgol yn rheolydd data ac mae wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau cyfranogwyr yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018. Mae’r holl ddata a gesglir trwy brosiect e-sgol yn cael ei brosesu a’i storio yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) newydd.
Rydym yn penderfynu sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu a pha ddibenion. Am bob mater sy'n ymwneud â data a mwy o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy e-bost ar ymholiadau@e-sgol.cymru.
Rydym yn casglu gwybodaeth bersonol gan unigolion sydd â diddordeb sy'n cwblhau unrhyw ffurflenni cofrestru ar-lein i dderbyn gwybodaeth a diweddariadau drwy e-bost. Mae’r wybodaeth bersonol a gesglir yn cynnwys adnabyddwyr personol, manylion cyswllt a nodweddion.
Mae'r wybodaeth a gesglir hefyd yn cynnwys beth yw diddordeb yr unigolion yn y prosiect e-sgol. Gall yr unigolion gynnwys ysgolion, sefydliadau dysgu, dysgwyr, ymarferwyr, rhiant/gofalwr, rhywun sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, cyfreithiwr, neu unigolyn sydd â diddordeb.
Nid yw eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu ag unrhyw un y tu allan i brosiect e-sgol ac ni fydd unrhyw ddata yn cael ei drosglwyddo dramor.
Rydym yn casglu gwybodaeth bersonol am unigolion at ddibenion anfon gwybodaeth berthnasol a phriodol a diweddaru partïon sydd â diddordeb yng ngwaith e-sgol.
Mae’r rheolau ar brosesu gwybodaeth bersonol wedi’u nodi yn y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (y “GDPR”). Mae gennych hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch. Dyma nhw:
allwch ddarllen mwy am eich hawliau ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn https://ico.org.uk/your-data-matters. Os gwnewch gais i ni, byddwn yn ymateb i chi o fewn un mis calendr.
Os bydd toriad data, ein cyfrifoldeb ni yw hysbysu’r ICO, yr heddlu a’r unigolion y bydd yn effeithio arnynt. Mae gennym bolisi toriad data ar waith y gallwch ei ddarllen trwy ofyn.
Bydd unrhyw newidiadau y gallwn eu gwneud i’n polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu postio ar y dudalen hon, a byddwn yn eich hysbysu os byddwn yn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol. Edrychwch yn ôl yn aml i weld unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau i’n polisi preifatrwydd.
Os oes gennych unrhyw bryderon am ein defnydd o’ch gwybodaeth bersonol, gallwch gyflwyno cwyn i ni yn e-sgol drwy e-bost ar ymholidau@e-sgol.cymru.
Os na fydd hyn yn datrys eich cwyn i’ch boddhad, mae gennych hawl i gyflwyno cwyn i’r ICO;
Cyfeiriad yr ICO – Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF.
Rhif llinell gymorth – 0303 123 1113
Gwefan ICO – https://www.ico.org.uk