Ymunodd Glenda â thîm e-sgol fel Arweinydd Gogledd Cymru ym mis Ebrill 2024. Yn ei rôl gydag e-sgol, mae Glenda yn cynorthwyo’r tîm i gydlynu’r prosiect mewn ysgolion ar draws Gogledd Cymru, gan sicrhau bod ysgolion, athrawon a disgyblion yn cael hyfforddiant ac arweiniad digonol i sicrhau bod y prosiect e-sgol yn un hwylus a llwyddiannus.
Mae Glenda wedi gweithio ym myd addysg ers 1999, yn bennaf fel pennaeth adran TGCh a chydlynydd TGCh mewn ysgol uwchradd. Roedd yn gyfrifol am gefnogi datblygiadau dysgu digidol yn yr ystafell ddosbarth ac yn cefnogi athrawon i ddatblygu eu sgiliau digidol. Cafodd gyfnod ar secondiad i gefnogi a datblygu dysgu digidol ar draws ysgolion cynradd ac uwchradd Gwynedd a Môn.
Tu allan i’r gwaith, mae Glenda yn aelod o Gȏr yr Heli ym Mhwllheli, ac yn mwynhau crwydro a cherdded arfordir Cymru a thu hwnt.