Roedd Gwion yn un o sylfaenwyr e-sgol pan gafodd ei lansio yng Ngheredigion yn 2018, ac mae’n goruchwylio’r prosiect erbyn hyn. Cafodd Gwion ei benodi’n Rheolwr Corfforaethol Atebolrwydd a Chynnydd yng Ngheredigion ym Medi 2018, ar ôl gweithio o fewn yr awdurdod fel ystadegydd a dadansoddwr data ers 2012.
Yn ei rôl o ddydd-i-ddydd, mae’n cynorthwyo ysgolion Ceredigion i reoli data a thracio perfformiad, tra hefyd yn rheoli derbyniadau ysgolion a chasgliadau data cenedlaethol.
Ar ôl graddio gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Mathemateg o Brifysgol Aberystwyth yn 2002, aeth Gwion ymlaen i hyfforddi i fod yn athro Mathemateg, a bu’n dysgu am ychydig flynyddoedd cyn penderfynu mynd i deithio Gogledd a De America am chwe mis. Ar ôl dychwelyd, gweithiodd Gwion gyda Chyfarwyddiaeth Ystadegol Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd am chwe blynedd fel dadansoddwr data o fewn sawl adran wahanol, gan gynnwys Ysgolion, Cyllid Myfyrwyr, Trafnidiaeth, a Chyllid Llywodraeth Leol.
Symudodd yn ôl i Orllewin Cymru yn 2012 ac erbyn hyn mae’n byw yn Nhalgarreg gyda’i wraig, Elin, a’u merch fach, Martha Rhys. Mae’n aelod o gôr meibion Ar Ôl Tri ac yn gyn-gadeirydd Clwb Rygbi Castellnewydd Emlyn.