Penodwyd Llifon yn Bennaeth Strategol e-sgol ym mis Ebrill 2022 wedi iddo dreulio 12 mlynedd fel athro uwchradd ac uwch arweinydd mewn ysgol gydol oes yng nghanolbarth Cymru gyda chyfrifoldebau dros y Chweched Dosbarth a’r adran Gymraeg. Bu’n gweithio’n agos â chydlynwyr e-sgol dros y blynyddoedd i allu cynnig amrediad eang o brofiadau i’w ddisgyblion.
Fel rhan o’i rôl gydag e-sgol, prif ddyletswyddau Llifon yw arwain tîm brwdfrydig o gydlynwyr blaengar wrth sicrhau parhad yn natblygiadau amrywiol e-sgol gan warantu ansawdd y ddarpariaeth wrth i’r prosiect dyfu o nerth i nerth ledled Cymru.
Tu hwnt i’w gyfrifoldebau gydag e-sgol, mae Llifon yn mwynhau treulio’i amser gyda’i wraig, Nia, a’u merched Mirain Grug a Mali Enlli. Mae’n aelod o Gôr Meibion Machynlleth ac yn olygydd y papur bro; Y Blewyn Glas.