Mae sector Cynradd e-sgol ar gael i gefnogi a chynghori amrywiol brosiectau dysgu o bell. Mae enghreifftiau o’r rhain i’w gweld isod:
Os ydych am greu prosiect ardal leol, yna edrychwch dim pellach nag un o’n prosiectau hanes lleol. Darparodd e-sgol gefnogaeth i Ysgolion Rhos Helyg a Llechryd i ddatblygu map rhyngweithiol o ardaloedd eu hysgolion, gydag ymwelwyr yn gallu clicio ar leoliadau penodol i’w cludo i enghreifftiau o waith dysgwyr
Mae clystyrau o ysgolion yn defnyddio technegau addysgu arloesol i ddatblygu eu cwricwla, fel yr enghraifft isod a fodelwyd gan deulu ysgolion clwstwr Llangynwyd. Os hoffech gymorth i sefydlu prosiect tebyg, cysylltwch â ni.
Crëwyd llyfr arbennig gan ‘Cardi-Iaith’ a phob dosbarth Blwyddyn 2 yng Ngheredigion er mwyn dathlu Diwrnod y Llyfr, gydag e-sgol yn cefnogi’r lansiad rhithiol.
Lansio Llyfr Dysgu Sylfaen Ceredigion
Os oes gennych ddiddordeb mewn rhedeg prosiect tebyg yn eich ysgol neu Awdurdod Addysg Lleol, cysylltwch â ni.
Yn barod i ymuno â rhwydwaith e-sgol neu â chwestiynau? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!