Gweler dolenni at 11 lefel gwahaniaethol o adnoddau llythrennedd yn y disgrifiad o dan bob fideo YouTube unigol, neu drwy ymweld â’r dudalen Adnoddau Llythrennedd.
Hoffai e-sgol ddiolch i bob Awdurdod Addysg Lleol sydd wedi cynorthwyo gyda churadu Cewri Cymru.
Mae dysgwyr yn mwynhau'r cyfle i wrando ar unigolion enwog o gefndiroedd amrywiol yn egluro sut mae'r Gymraeg wedi eu helpu i gyrraedd uchelfannau eu gyrfaoedd. Mae'r isdeitlau ar y fersiynau cyfrwng Saesneg wir yn helpu'r rhai sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith neu iaith ychwanegol hefyd.
Mae’r fideos yn galluogi dysgwyr i glywed y Gymraeg yn cael ei defnyddio’n weithredol, a sut i ddefnyddio’r iaith yn gywir eu hunain.
Yn barod i ymuno â rhwydwaith e-sgol neu â chwestiynau? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!