e-sgol logo

E-hangu Gorwelion

Darpariaeth MAT

Sesiynau rhithwir ar gyfer dysgwyr MAT

Trefnodd y sector Cynradd brosiect peilot o sesiynau ysgrifennu creadigol ar gyfer disgyblion MAT mewn partneriaeth ag Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth, yn ystod tymor yr haf 2023-24.

Mae'r gwersi hyn ar gael i'w gwylio isod trwy YouTube

Yn dilyn y treial llwyddiannus yma, trefnwyd sesiynau pellach gydag adrannau amrywiol o wahanol Brifysgolion ledled Cymru. Am ragor o wybodaeth am y sesiynau hyn, cysylltwch â ni.

Tystebau

Mae wedi bod yn fraint i ddysgwyr Ysgol Penparc i gyd-weithio gydag e-sgol ar y gwersi arbennig yma i ddisgyblion abl a thalentog. Mae'r sesiynau wedi'u cynllunio'n arbennig gan roi’r maint cywir o her, ac mae dysgwyr yn mwynhau mynychu'r sesiynau gan wneud gwaith sydd yn gymhleth ond wedi’u llunio mewn ffordd hwylus. Mae’r plant wir wedi mwynhau yn fawr ac rydym yn falch iawn o fod wedi cael y cyfle i gymryd rhan ynddyn nhw

Trystan Phillips
Ysgol Penparc

Cysylltwch â ni

Yn barod i ymuno â rhwydwaith e-sgol neu â chwestiynau? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!

© 2025 e-sgol. Cedwir Pob Hawl.