e-sgol logo

Ieithoedd Rhyngwladol

Dod ag Ieithoedd Byd-eang i Ddosbarthiadau Cynradd

Ieithoedd Tramor Modern

Trefnodd y sector Cynradd brosiect peilot o wersi Almaeneg byw trwy MS Teams mewn partneriaeth â’r Goethe Institut, yn ystod tymor yr haf 2023-24.

Mae'r 4 gwers hyn ar gael i'w gwylio isod trwy YouTube

Yn dilyn y treial llwyddiannus yma, mae gwersi pellach wedi’u trefnu ar gyfer tymor y Gaeaf 2024-25. Am fwy o wybodaeth am y sesiynau hyn, cysylltwch â ni

Tystebau

Mae'r agwedd ar-lein wedi gweithio'n dda - yn dechnegol, roedd y sesiynau yn glir ac yn drefnus iawn. Roedd y rhyngweithio rhwng y cyflwynwyr yn dda iawn ac roedd y cynnwys a'r eirfa wedi'u gosod ar lefel addas. Roedd y cwisiau Kahoot yn boblogaidd iawn gan fod fy nosbarth yn gystadleuol iawn!

Louise Hutchinson
Ysgol Nant y Groes

Rydyn ni wedi mwynhau pob munud. Roedd elfen seren yr wythnos yn llwyddiant ysgubol, ac mae fy nosbarth yn hynod gystadleuol, felly roedden nhw wrth eu bodd â'r defnydd o'r cwisiau Kahoot! Roedd yr ychwanegiad hwyliog o wahanol elfennau er mwyn cael y dosbarth ar eu traed ac yn symud o gwmpas yn grêt hefyd.

Yvonne Yorkshades
Alderman Davies CiW Primary School

Cysylltwch â ni

Yn barod i ymuno â rhwydwaith e-sgol neu â chwestiynau? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!

© 2024 e-sgol. Cedwir Pob Hawl.