Trwy gydweithio, mae e-sgol yn cefnogi ysgolion uwchradd ledled Cymru i:
Bwriad cychwynnol e-sgol oedd galluogi ysgolion uwchradd gwledig i allu cynnig ystod eang o bynciau i'w dysgwyr ôl-16. Yn raddol, mae ysgolion uwchradd mewn ardaloedd gwledig a threfol ledled Cymru wedi mabwysiadu ethos e-sgol o gydweithio er budd eu dysgwyr.
Yn gyffredinol, mae ysgolion uwchradd yn cydweithio ar draws clwstwr o ysgolion o fewn pellter teithio i'w gilydd. Mae cyrsiau cydweithredol e-sgol yn dilyn model dysgu hybrid, gyda dysgwyr yn cael mynediad at gyfleoedd dysgu cydamserol o bell ac anghydamserol o bell a ategir gan sesiynau wyneb yn wyneb.
Mewn amgylchedd addysgol, mae'r ffordd y mae dysgwyr yn derbyn ac yn cael mynediad at wersi a chyrsiau yn newid yn barhaus. Mae cydweithio ag e-sgol yn sicrhau bod:
Chwiliwch drwy’r map rhyngweithiol isod i weld sut mae e-sgol yn galluogi nifer o ysgolion uwchradd ar draws Cymru i gynnig pynciau hybrid.
Yn barod i ymuno â rhwydwaith e-sgol neu â chwestiynau? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!