e-sgol logo

Cwestiynau Cyffredin

Canfod atebion i gwestiynau cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Croeso i'n hadran Cwestiynau Cyffredin, lle rydym yn ymdrin â'r cwestiynau mwyaf cyffredin gan athrawon, ysgolion, dysgwyr, a rhieni/gwarcheidwaid am ein cyrsiau cydweithredol e-sgol a'n dull dysgu hybrid.

Pwy sy’n addysgu ac yn cyflwyno’r cyrsiau e-sgol cydweithredol?

Mae’r cyrsiau e-sgol cydweithredol yn cael eu cyflwyno gan athrawon o’ch ysgolion, gan sicrhau bod athrawon yn gallu cyflwyno’r pynciau y maent yn angerddol yn eu cylch. Ar y cyfan, nid yw e-sgol yn darparu cyrsiau e-sgol cydweithredol.

Pwy sy’n penderfynu pa ysgol sy’n cyflwyno cwrs penodol?

Yr ysgolion a’u Hawdurdodau Lleol sy’n penderfynu pa gyrsiau y byddant yn eu cynnig mewn cydweithrediad rhwng rhwydwaith neu glwstwr o ysgolion i’r myfyrwyr. Ystyrir nifer o ffactorau pan fydd ysgolion yn penderfynu pa gwrs cydweithredol a gynigir, gan gynnwys nifer y myfyrwyr sydd am astudio cwrs penodol.

Beth yw dysgu hybrid?

Mae dysgu hybrid yn gyfuniad o wersi cydamserol ar-lein, sesiynau wyneb yn wyneb, a chyfleoedd dysgu anghydamserol ar-lein. Mae rhagor o wybodaeth am y model dysgu hybrid ar gael yma.

Beth yw’r prif wahaniaethau rhwng cwrs e-sgol cydweithredol a chwrs ystafell ddosbarth traddodiadol?

Bydd llawer o’r profiadau yr un fath; darperir offer a hyfforddiant i sicrhau bod y profiad mor llyfn â phosibl. Y prif wahaniaethau yw’r defnydd o ystod o offer a strategaethau ar-lein i hwyluso’r dysgu.

Pa lwyfan a ddefnyddir i gyflwyno’r cyrsiau e-sgol cydweithredol a ddarperir?

Cyflwynir y cwrs e-sgol cydweithredol trwy MS Teams neu Google Classroom, gan ddefnyddio platfform dysgu Llywodraeth Cymru, Hwb.

Sut byddaf yn cael fy nghefnogi gyda’r dechnoleg?

Mae e-sgol yn darparu cefnogaeth ac arweiniad i bob athro ynghylch yr addysgeg a’r dechnoleg y tu ôl i gyflwyno cwrs e-sgol cydweithredol. Bydd cyfleoedd dysgu proffesiynol amrywiol yn seiliedig ar gyflwyno cwrs dysgu hybrid yn cael eu cynnig i athrawon trwy gydol y flwyddyn. Bydd Technegydd TG yr ysgol yno hefyd i’ch cefnogi gydag unrhyw gysylltedd a materion technegol.

A fydd y dechnoleg yn gweithio?

Cyn unrhyw gyfres o wersi, bydd y dechnoleg yn cael ei phrofi gan dechnegwyr yn y gwahanol ysgolion, yn ogystal â’r athrawon a fydd yn cyflwyno’r gyfres o wersi. Bydd hyn yn digwydd ar sawl achlysur.  Mae’r dechnoleg a chysylltedd cyffredinol wedi gwella’n aruthrol ac yn gweithio’n dda ledled Cymru ers i e-sgol ddwyn ffrwyth yn 2018.

Sut bydd yn rhaid i mi addasu fy arddull addysgu ar gyfer dysgu ar-lein?

Mae cyflwyno cynnwys mewn gwersi traddodiadol a gwersi e-sgol yn debyg iawn. Nid oes rhaid i’r arddull addysgu newid llawer chwaith.  Rhoddir mwy o bwyslais ar elfen gyfathrebu’r cwrs, yn enwedig wrth wneud yn glir at bwy y cyfeirir y cwestiynau. Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu i athrawon yn yr agwedd hon, gyda fideos, gweminarau a thiwtorialau hefyd ar gael i athrawon eu defnyddio.

Sut mae ansawdd gwersi e-sgol yn cael ei sicrhau?

Bydd ansawdd y ddarpariaeth yn cael ei sicrhau yn yr un modd â gwersi traddodiadol, gan gynnwys ymweliadau monitro a chraffu mewnol gan yr ysgol sy’n cynnal y cwrs e-sgol cydweithredol.

Beth yw dysgu hybrid?

Mae dysgu hybrid yn gyfuniad o wersi cydamserol ar-lein, sesiynau wyneb yn wyneb, a chyfleoedd dysgu anghydamserol ar-lein. Mae rhagor o wybodaeth am y model dysgu hybrid ar gael yma.

Beth yw’r prif wahaniaethau rhwng cwrs e-sgol cydweithredol a chwrs ystafell ddosbarth traddodiadol?

Bydd llawer o’r profiadau yr un fath; darperir offer a hyfforddiant i sicrhau bod y profiad mor llyfn â phosibl. Y prif wahaniaethau yw’r defnydd o ystod o offer a strategaethau ar-lein i hwyluso’r dysgu.

Pa lwyfan a ddefnyddir i gyflwyno’r cyrsiau e-sgol cydweithredol a ddarperir?

Cyflwynir y cwrs e-sgol cydweithredol trwy MS Teams neu Google Classroom, gan ddefnyddio platfform dysgu Llywodraeth Cymru, Hwb.

Sut mae dysgwyr yn cyfathrebu â’r athro yn ystod y gwersi cydamserol ar-lein a thu allan i amser gwersi?

Yn ystod gwers gydamserol ar-lein, gall dysgwyr siarad â’r athrawon gan ddefnyddio’r siaradwr/meicroffon a fydd yn cael ei osod yn yr ystafell ddosbarth e-sgol. Mae’r swyddogaeth sgwrsio neu “chat” o fewn MS Teams a Google Classroom yn caniatáu i ddysgwyr ofyn cwestiynau y tu allan i oriau gwersi y gall eich athro eu hateb.

Y tu allan i’r amser addysgu uniongyrchol, bydd athrawon hefyd yn gallu rhannu cyfeiriad e-bost eu hysgol er mwyn cysylltu â nhw’n uniongyrchol os bydd unrhyw gwestiynau pellach.

Bydd hefyd aelod o staff o fewn pob ysgol a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y dysgwyr yn hapus gyda sut mae’r cyrsiau’n mynd.

 

A all dysgwyr ail-wylio’r gwersi?

Os yw’r wers wedi’i recordio, gall dysgwyr weld y wers eto. Gellir defnyddio’r recordiadau hyn i atgyfnerthu elfennau a allai fod wedi’u methu neu eu camddeall yn ystod y wers a gellir eu defnyddio hefyd i gefnogi adolygu.

Bydd deunyddiau dosbarth, adnoddau ac aseiniadau hefyd ar gael ac yn cael eu cadw o fewn MS Teams neu Google Classroom.

Sut mae dysgwyr yn adolygu ar gyfer cwrs e-sgol?

Mae cwrs e-sgol cydweithredol yr un peth ag unrhyw gwrs arall. Byddech yn adolygu yn yr un modd gan ddefnyddio’r strategaethau yr ydych wedi’u datblygu drwy gydol eich amser yn yr ysgol. Peidiwch ag anghofio am sesiynau adolygu Carlam Cymru e-sgol sydd ar gael yma.

Pa gymorth fydd ar gael i ddysgwyr sy’n dilyn cwrs e-sgol cydweithredol am y tro cyntaf?

Bydd pob dysgwr yn cael cymorth ac arweiniad gan aelodau o staff o fewn eu hysgolion ac e-sgol. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda’r ysgolion sy’n cyflwyno’r cyrsiau, gan gynnwys y technegydd TG, fel y gallant ddatrys unrhyw faterion technegol cyn gynted â phosibl.

Sut bydd dysgwyr yn cyflwyno eu gwaith cartref?

Mae MS Teams a Google Classroom yn ei gwneud hi’n hawdd i athrawon osod gweithgareddau a thasgau i fyfyrwyr eu cwblhau. Mae’r offer amrywiol sydd ar gael trwy’r llwyfannau hyn yn cynnwys Aseiniadau ar TEAMS a Llyfr Nodiadau Dosbarth. (Class Notebook) Fel sy’n digwydd mewn dosbarth traddodiadol, bydd athrawon yn gosod y disgwyliadau a’r terfynau amser ar gyfer cwblhau’r gwaith.

Sut mae adborth ar aseiniadau a gwaith cartref yn cael ei roi?

Bydd gan bob athro liniadur, sy’n galluogi staff i farcio a rhoi adborth i unrhyw aseiniad a gwaith cartref a gyflwynir.  Dychwelir y weithgaredd neu’r dasg orffenedig yn electronig, a bydd cofnod o’r gwaith yn cael ei gadw ar y system.

A fydd y dechnoleg yn gweithio?

Cyn unrhyw gyfres o wersi, bydd y dechnoleg yn cael ei phrofi gan dechnegwyr yn y gwahanol ysgolion, yn ogystal â’r athrawon a fydd yn cyflwyno’r gyfres o wersi. Bydd hyn yn digwydd ar sawl achlysur.  Mae’r dechnoleg a chysylltedd cyffredinol wedi gwella’n aruthrol ac yn gweithio’n dda ledled Cymru ers i e-sgol ddwyn ffrwyth yn 2018.

A fydd athrawon yn gallu helpu fy mhlentyn os nad ydynt yn deall?

Byddant. Bydd y gosodiad technolegol yn dynwared ystafell ddosbarth go iawn a bydd myfyrwyr ac athrawon yn rhyngweithio yn union fel pe baent mewn lleoliad traddodiadol. Mae’n bosibl gofyn cwestiwn i athrawon ar lafar neu drwy’r swyddogaeth sgwrsio. Gall athrawon gysylltu â’r dysgwyr yn rheolaidd i ddarparu cymorth ychwanegol.

Beth yw dysgu hybrid?

Mae dysgu hybrid yn gyfuniad o wersi cydamserol ar-lein, sesiynau wyneb yn wyneb, a chyfleoedd dysgu anghydamserol ar-lein. Mae rhagor o wybodaeth am y model dysgu hybrid ar gael yma.

Beth yw’r prif wahaniaethau rhwng cwrs e-sgol cydweithredol a chwrs ystafell ddosbarth traddodiadol?

Bydd llawer o’r profiadau yr un fath; darperir offer a hyfforddiant i sicrhau bod y profiad mor llyfn â phosibl. Y prif wahaniaethau yw’r defnydd o ystod o offer a strategaethau ar-lein i hwyluso’r dysgu.

Pa lwyfan a ddefnyddir i gyflwyno’r cyrsiau e-sgol cydweithredol a ddarperir?

Cyflwynir y cwrs e-sgol cydweithredol trwy MS Teams neu Google Classroom, gan ddefnyddio platfform dysgu Llywodraeth Cymru, Hwb.

Sut mae dysgwyr yn cyfathrebu â’r athro yn ystod y gwersi cydamserol ar-lein a thu allan i amser gwersi?

Yn ystod gwers gydamserol ar-lein, gall dysgwyr siarad â’r athrawon gan ddefnyddio’r siaradwr/meicroffon a fydd yn cael ei osod yn yr ystafell ddosbarth e-sgol. Mae’r swyddogaeth sgwrsio neu “chat” o fewn MS Teams a Google Classroom yn caniatáu i ddysgwyr ofyn cwestiynau y tu allan i oriau gwersi y gall eich athro eu hateb.

Y tu allan i’r amser addysgu uniongyrchol, bydd athrawon hefyd yn gallu rhannu cyfeiriad e-bost eu hysgol er mwyn cysylltu â nhw’n uniongyrchol os bydd unrhyw gwestiynau pellach.

Bydd hefyd aelod o staff o fewn pob ysgol a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y dysgwyr yn hapus gyda sut mae’r cyrsiau’n mynd.

 

A all dysgwyr ail-wylio’r gwersi?

Os yw’r wers wedi’i recordio, gall dysgwyr weld y wers eto. Gellir defnyddio’r recordiadau hyn i atgyfnerthu elfennau a allai fod wedi’u methu neu eu camddeall yn ystod y wers a gellir eu defnyddio hefyd i gefnogi adolygu.

Bydd deunyddiau dosbarth, adnoddau ac aseiniadau hefyd ar gael ac yn cael eu cadw o fewn MS Teams neu Google Classroom.

Sut mae dysgwyr yn adolygu ar gyfer cwrs e-sgol?

Mae cwrs e-sgol cydweithredol yr un peth ag unrhyw gwrs arall. Byddech yn adolygu yn yr un modd gan ddefnyddio’r strategaethau yr ydych wedi’u datblygu drwy gydol eich amser yn yr ysgol. Peidiwch ag anghofio am sesiynau adolygu Carlam Cymru e-sgol sydd ar gael yma.

Pa gymorth fydd ar gael i ddysgwyr sy’n dilyn cwrs e-sgol cydweithredol am y tro cyntaf?

Bydd pob dysgwr yn cael cymorth ac arweiniad gan aelodau o staff o fewn eu hysgolion ac e-sgol. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda’r ysgolion sy’n cyflwyno’r cyrsiau, gan gynnwys y technegydd TG, fel y gallant ddatrys unrhyw faterion technegol cyn gynted â phosibl.

Sut bydd dysgwyr yn cyflwyno eu gwaith cartref?

Mae MS Teams a Google Classroom yn ei gwneud hi’n hawdd i athrawon osod gweithgareddau a thasgau i fyfyrwyr eu cwblhau. Mae’r offer amrywiol sydd ar gael trwy’r llwyfannau hyn yn cynnwys Aseiniadau ar TEAMS a Llyfr Nodiadau Dosbarth. (Class Notebook) Fel sy’n digwydd mewn dosbarth traddodiadol, bydd athrawon yn gosod y disgwyliadau a’r terfynau amser ar gyfer cwblhau’r gwaith.

Sut mae adborth ar aseiniadau a gwaith cartref yn cael ei roi?

Bydd gan bob athro liniadur, sy’n galluogi staff i farcio a rhoi adborth i unrhyw aseiniad a gwaith cartref a gyflwynir.  Dychwelir y weithgaredd neu’r dasg orffenedig yn electronig, a bydd cofnod o’r gwaith yn cael ei gadw ar y system.

A fydd athrawon yn gallu helpu fy mhlentyn os nad ydynt yn deall?

Byddant. Bydd y gosodiad technolegol yn dynwared ystafell ddosbarth go iawn a bydd myfyrwyr ac athrawon yn rhyngweithio yn union fel pe baent mewn lleoliad traddodiadol. Mae’n bosibl gofyn cwestiwn i athrawon ar lafar neu drwy’r swyddogaeth sgwrsio. Gall athrawon gysylltu â’r dysgwyr yn rheolaidd i ddarparu cymorth ychwanegol.

Sut bydd fy mhlentyn yn dod i adnabod y disgyblion eraill?

Bydd dysgwyr yn dod i adnabod ei gilydd yn ystod y sesiynau cydamserol ar-lein fel y byddent mewn trefn draddodiadol.  At hynny, i gyd-fynd â’r gwersi cydamserol ar-lein, bydd gwersi wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal yn yr ysgol sy’n darparu’r cwrs a byddant yn cael eu hamserlennu yn ystod y flwyddyn ysgol. Mae’r gwersi hyn yn hanfodol i ddod i adnabod yr athro, disgyblion eraill ac i ddyfnhau eu dealltwriaeth o’r cynnwys sy’n gysylltiedig â’r cwrs.

Beth am nosweithiau rhieni ac adroddiadau?

Bydd nosweithiau rhieni ar gyfer y cwrs e-sgol cydweithredol y mae eich plentyn yn ei astudio yn cael eu darparu gan yr ysgol sy’n cynnal y cwrs. Mae’r un peth yn wir am adroddiadau.  Os na allwch ddod i’r noson rieni yn bersonol, gobeithir trefnu cyfarfod ar-lein i’ch arbed rhag gorfod teithio.

Sut mae ansawdd gwersi e-sgol yn cael ei sicrhau?

Bydd ansawdd y ddarpariaeth yn cael ei sicrhau yn yr un modd â gwersi traddodiadol, gan gynnwys ymweliadau monitro a chraffu mewnol gan yr ysgol sy’n cynnal y cwrs e-sgol cydweithredol.

Cysylltwch â ni

Yn barod i ymuno â rhwydwaith e-sgol neu â chwestiynau? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!

© 2024 e-sgol. Cedwir Pob Hawl.