e-sgol logo

Cyrsiau

Ehangu Gorwelion Addysgol Trwy Gydweithrediad

Cyrsiau i Ysgolion Uwchradd

Trwy gydweithio a thrafodaethau rhwng ysgolion a’u hathrawon, gellir cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau ôl-16 i’w dysgwyr. Bydd rhwydweithiau neu glystyrau o ysgolion uwchradd yn cynnig gwahanol gyrsiau ôl-16 yn ddibynnol ar yr angen a’r athrawon arbenigol sydd ar gael o fewn y rhwydwaith neu glwstwr. Mae'r amrywiaeth o gyrsiau ôl-16 sy'n cael eu darparu ledled Cymru ar hyn o bryd yn cynnwys Mathemateg Bellach, Cyfrifiadureg, Ffrangeg, Cymraeg Ail Iaith.

Ers i e-sgol ddechrau yn 2018/2019 mae nifer y cyrsiau cydweithredol a ddarperir gan ysgolion wedi cynyddu o 4 cwrs i 56 cwrs yn 2023/24. O ganlyniad, mae 584 o ddysgwyr o bob rhan o Gymru yn elwa ar y cyrsiau dysgu hybrid hyn ac yn cael mynediad iddynt.

Ysgol sy’n Cymryd Rhan
Cyrsiau a Gynigir
Disgyblion wedi Ymgysylltu

Mae e-sgol yn cefnogi athrawon proffesiynol ac angerddol ledled Cymru i gyflwyno'r cyrsiau hybrid hyn i'w dysgwyr, gan gyfrannu at ehangu'r arlwy ôl-16.

Cynigir cyfleoedd dysgu proffesiynol pwrpasol i gefnogi’r athrawon sy’n cyflwyno cwrs cydweithredol e-sgol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Sesiynau ar-lein a wyneb yn wyneb sydd yn canolbwyntio ar addysgeg, gan gynnwys strategaethau dysgu cydamserol ac anghydamserol.
  • Ymweliadau pwrpasol ag ysgolion.
  • Sesiynau ymgysylltu â myfyrwyr.
  • Adnoddau rhestr chwarae hunan-gyfeiriedig ar gyfer datblygiad proffesiynol.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall e-sgol gefnogi dysgwyr ôl-14 ac ôl-16 yn eich ysgol chi, cysylltwch ag Arweinwyr Uwchradd e-sgol, Glenda Haf Jones (Gogledd) neu Stephen Williams (Canolbarth a De).

Dyma rai o’r cyrsiau e-sgol cydweithredol a fydd yn cael eu darparu ledled Cymru yn 2024/25:

Cysylltwch â ni

Yn barod i ymuno â rhwydwaith e-sgol neu â chwestiynau? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!

© 2024 e-sgol. Cedwir Pob Hawl.