e-sgol logo

Datblygu a Gwerthuso

Llunio Dyfodol Addysg yng Nghymru

Blaenoriaethau e-sgol 2024-2026

Mae prosiect e-sgol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi bod yn rhedeg ers mis Medi 2018, yn wreiddiol er mwyn cynnig cyfleoedd trwy e-ddysgu i ddisgyblion ôl-14 na fyddai ar gael heb y ddarpariaeth arloesol hon. Ein bwriad yw ehangu’r ddarpariaeth sydd ar gael o fewn ysgolion Cymraeg pob rhan o’r wlad, fel bod dewis eang o gymwysterau a phrofiadau ar gael i’n pobl ifanc, boed hynny yn y sector uwchradd neu nawr yn y sector cynradd hefyd.

Ein nod yw arwain y ffordd o ran addysg ddigidol yng Nghymru gan sicrhau darpariaeth o safon uchel sy’n manteisio ar y datblygiadau technolegol ac addysgol diweddaraf.

Yn ogystal, e-sgol sy’n gyfrifol am redeg a darparu Carlam Cymru – cyfres o sesiynau ar ôl ysgol sy’n atgyfnerthu ac adolygu gwaith sy’n digwydd yn yr ysgol.

Ehangwyd y ddarpariaeth bresennol i’r sector cynradd am y tro cyntaf yn ystod 2023-2024, gan efelychu’r rhaglen e-sgoil yn yr Alban ymhellach, sef tarddiad cychwynnol ein prosiect tebyg yma yng Nghymru.

Yn ein cynllun datblygu, rydym yn amlygu’r datblygiadau diweddaraf y byddwn yn anelu atynt er mwyn sicrhau llwyddiant y prosiect.

Teacher conducting online lesson to students

Gellir darllen manylion llawn cynlluniau e-sgol yn y Cynllun Datblygu 2023-2026

Mesur Llwyddiant a Thwf

Mesur Effaith

Mae e-sgol yn gwerthuso’i waith yn erbyn y cynllun datblygu’n flynyddol er mwyn mesur yr effaith y mae’r project yn ei gael ar y tirlun addysgol yng Nghymru. Gellir lawrlwytho copi o Adroddiad Mesur Effaith eleni isod

Cysylltwch â ni

Yn barod i ymuno â rhwydwaith e-sgol neu â chwestiynau? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!

© 2025 e-sgol. Cedwir Pob Hawl.