Cafodd Matt ei secondio i rôl cynghorydd cymorth technegol TGCh e-sgol rhan-amser yn Hydref 2020. Gan weithio’n agos a’r tîm o gydlynwyr, ei brif rôl yw darparu cyngor strategol ac arweiniad technegol i dîm prosiect e-sgol, yn sgil ei brofiad helaeth o weithio gyda systemau TGCh, o fewn y sector addysg yn benodol, am dros 20 mlynedd. Mae ei ddyletswyddau’n cynnwys adolygu’r systemau e-sgol presennol a gwerthuso cynnyrch a systemau newydd a fydd yn helpu i gario’r prosiect ymlaen a sicrhau ei lwyddiant.
Ar hyn o bryd mae Matt wedi’i gyflogi fel Rheolwr Cyfleusterau TGCh yn Ysgol Llanfyllin (Cyngor Sir Powys) ac yn ddiweddar mae wedi goruchwylio’r broses o uno dwy ysgol, sef Ysgol Uwchradd Llanfyllin ac Ysgol Gynradd Llanfyllin. Yn ystod ei amser yn Ysgol Uwchradd Llanfyllin mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau TGCh mawr, gan gynnwys bod yn un o’r ysgolion cyntaf yn y DU i drawsnewid y ffordd rydym yn addysgu yn yr ystafell ddosbarth, drwy gyflwyno Cyfrifiaduron Tabled a thaflunyddion di-wifr, yn ôl yn 2004, pan ddaeth cynrychiolwyr o Microsoft i’r ysgol i weld y dechnoleg newydd ar waith. Mae’r dull hwn wedi’i uwchraddio sawl tro dros y blynyddol, ac mae’r wybodaeth a ddaeth yn sgil gweithio gyda’r dechnoleg hon dros y blynyddoedd wedi darparu platfform sefydlog ar gyfer cyflwyno’r prosiect e-sgol.
I ffwrdd o’r gwaith, mae Matt yn mwynhau nofio ac mae’n rhedwr brwd sydd wedi cwblhau sawl ras 10k a hanner marathon ar hyd a lled y wlad, yn ogystal â mynychu ParkRuns lleol yn rheolaidd. Ei nod personol nesaf yw cwblhau ei ras farathon lawn gyntaf.