Dechreuodd Nia yn ei rôl fel Cydlynydd Gweithredol e-sgol ym mis Gorffennaf 2022. Ymhlith ei dyletswyddau, mae Nia yn cydlynu’r prosiect Carlam Cymru yn genedlaethol, yn cydlynu cynhadledd flynyddol e-sgol, ac yn rheoli’r cyfryngau cymdeithasol a chysylltiadau cyhoeddus ar ran e-sgol.
Mae Nia wedi gweithio ym myd addysg drwy gydol ei gyrfa – yn athrawes mewn ysgol gynradd, yn dysgu Saesneg i blant ac oedolion yng Nghatalwnia, yn cefnogi gwaith polisi ar gymwysterau yn Llywodraeth Cymru, ac yn rhan o dîm Marchnata Prifysgol Aberystwyth.
Yn ogystal â’i gwaith gydag e-sgol, mae Nia yn Diwtor Cymraeg rhan-amser gyda Dysgu Cymraeg, yn dysgu Cymraeg i oedolion ar-lein. Pan nad yw’n gweithio, mae Nia’n mwynhau cerddoriaeth (canu, a chanu’r piano a’r ffliwt), cerdded yn y mynyddoedd, dilyn celf a dysgu ieithoedd.