Ymunodd Siwan â thîm e-sgol fel Rheolwr Prosiect Ymlaen gyda’r Dysgu ym mis Chwefror 2023. Mae’r rôl yn hybu sesiynau magu hyder a hogi sgiliau siarad Cymraeg disgyblion 16-18 oed, dan nawdd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol mewn partneriaeth ag e-sgol. Siwan sy’n cydlynu gwaith y prosiect gan gynnwys hyrwyddo’r sesiynau i ennyn diddordeb y disgyblion, sicrhau cofrestriadau, trefnu’r sesiynau, cydweithio gyda tiwtoriaid a llongyfarch y disgyblion ar orffen y sesiynau’n llwyddiannus.
Mae Siwan wedi gweithio ym maes Cyfathrebu drwy gydol ei gyrfa, gan dreulio bron i ddegawd yn arwain y Tîm Cyfathrebu o fewn Llywodraeth Leol. Ei phrif ddiddordebau yw datblygu cyfathrebu da, rhannu gwybodaeth hawdd ei ddeall a rheoli prosiectau.
Tu hwnt i’r gwaith, mae Siwan yn mwynhau treulio amser gyda’i theulu yn yr awyr agored neu ar wyliau mewn carafan, darllen ar unrhyw eiliad sbar, cerdded ei ffordd o gwmpas yr ardal ac yn ddiweddar mae wedi dechrau therapi dŵr oer!