e-sgol logo

Model Dysgu Hybrid

Cyfuno Dulliau Ar-lein a Wyneb i Wyneb ar gyfer Addysg Gynhwysfawr

Tair Agwedd o Ddysgu Hybrid

Mae cyrsiau cydweithredol e-sgol yn cael eu hamserlennu’n ofalus ac mae dysgwyr yn cael mynediad i'r gwersi o'u hysgolion eu hunain. Defnyddir dull dysgu hybrid sy'n cynnwys tair agwedd:

  • Dysgu Cydamserol o Bell
  • Dysgu Anghydamserol o Bell
  • Dysgu Wyneb yn Wyneb
A diagram explaining the Hybrid Learning Model

Dysgu Cydamserol o Bell

Bydd y mwyafrif o wersi cydweithredol e-sgol yn cael eu haddysgu ar-lein, naill ai trwy MS Teams neu Google Classroom. Wrth gael mynediad i’r gwersi cydamserol o bell, bydd dysgwyr yn defnyddio ystafell ddosbarth dynodedig e-sgol yn eu hysgolion a fydd yn cynnwys sgrin fawr (i wylio’r addysgu), gwe-gamera, a seinydd/meicroffon addas. Bydd dysgwyr yn cael mynediad at lwyfan dysgu rhithwir er mwyn cael mynediad at yr adnoddau gwersi a chwblhau gweithgareddau a thasgau.

Dysgu Anghydamserol o Bell

I ategu'r dysgu cydamserol o bell a wyneb yn wyneb, bydd gweithgareddau a thasgau anghydamserol o bell yn cael eu defnyddio. Mae'r gweithgareddau hyn yn cael eu cwblhau gan ddysgwyr yn annibynnol ac fel arfer tu allan i amser gwersi strwythuredig. Mae'r gweithgareddau anghydamserol o bell yn galluogi dysgwyr i atgyfnerthu'r gwaith a gwblhawyd yn ystod eu gwersi, ond o fewn amserlen benodol.

Dysgu Wyneb yn Wyneb

Er mwyn mabwysiadu dull dysgu hybrid yn llawn, bydd dysgwyr yn ymweld â'r ysgol sy'n cynnal y cwrs yn gorfforol ar adegau. Trefnir hyn rhwng yr ysgolion. Mae’n rhoi cyfleoedd i’r athrawon a’r dysgwyr feithrin ymddiriedaeth a pherthynas â’i gilydd ac i gwblhau ambell weithgaredd benodol na fyddai modd eu cyflawni'n rhithiol o bosib. Mae amlder y sesiynau wyneb yn wyneb hyn yn amrywio o un awdurdod lleol i’r llall. Fodd bynnag, trefnir sesiynau wyneb yn wyneb o leiaf unwaith bob hanner tymor.

Cysylltwch â ni

Yn barod i ymuno â rhwydwaith e-sgol neu â chwestiynau? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!

© 2024 e-sgol. Cedwir Pob Hawl.