e-sgol logo

Ieithoedd

Dod ag Ieithoedd Byd-eang i Ddosbarthiadau Cynradd

Ieithoedd

Ieithoedd Rhyngwladol

Mae prosiect Ieithoedd Rhyngwladol yn dod a sesiynau Almaeneg, Sbaeneg a Ffrangeg i ddosbarthiadau ledled Cymru.
Cafodd y prosiect ei grybwyll mewn adroddiad Estyn yn ystod 2024-25 gan adlewyrchu'r gwaith da o ddod â phrofiadau dysgu dilys o ansawdd uchel i ddisgyblion.

Gair gan yr athrawon

Mae'r agwedd ar-lein wedi gweithio'n dda - yn dechnegol, roedd y sesiynau yn glir ac yn drefnus iawn. Roedd y rhyngweithio rhwng y cyflwynwyr yn dda iawn ac roedd y cynnwys a'r eirfa wedi'u gosod ar lefel addas. Roedd y cwisiau Kahoot yn boblogaidd iawn gan fod fy nosbarth yn gystadleuol iawn!

Louise Hutchinson
Ysgol Nant y Groes

Rydyn ni wedi mwynhau pob munud. Roedd elfen seren yr wythnos yn llwyddiant ysgubol, ac mae fy nosbarth yn hynod gystadleuol, felly roedden nhw wrth eu bodd â'r defnydd o'r cwisiau Kahoot! Roedd yr ychwanegiad hwyliog o wahanol elfennau er mwyn cael y dosbarth ar eu traed ac yn symud o gwmpas yn grêt hefyd.

Yvonne Yorkshades
Alderman Davies CiW Primary School
© 2026 e-sgol. Cedwir Pob Hawl.