e-sgol logo

Cymreictod

Dysgu am ddiwylliant a defnyddio’r iaith

Cymreictod

Cymru Quiz

Ceir eitemau a straeon difyr sy’n dathlu hunaniaeth a threftadaeth Gymreig gyda Cwis rhyngweithiol wedi’i blethu yn y sesiwn, yn herio gwybodaeth dysgwyr ar y pryd!

e-steddfod

Mae’r e-steddfod yn dathlu’r Celfyddydau Mynegiannol Cymraeg ar-lein rhwng ysgolion gan sicrhau bod dysgwyr yn cael y cyfle i ymuno mewn Eisteddfod a chystadlu ar lwyfan neu mewn gwaith ysgol.

Mae ysgolion wedi canmol y prosiect fel ffordd effeithiol o:
• hyrwyddo cydweithio rhwng ysgolion ledled Cymru.
• ddatblygu cwricwlwm Cymreig ysgolion a gwneud disgyblion yn “gyffrous i ddefnyddio’r iaith”.
• ddarparu dysgu yn seiliedig ar brosiect sy'n
• wneud y mwyaf o ddarnau a ddysgwyd wrth baratoi ar gyfer Eisteddfodau Ysgol ac Eisteddfod yr Urdd.

Gair gan yr athrawon

Roedd y digwyddiad yn gwneud ein disgyblion yn gyffrous i ddefnyddio eu Cymraeg ac yn gwneud i’r staff deimlo’n hyderus i’n disgyblion gystadlu mewn mwy o ddigwyddiadau fel Eisteddfod yr Urdd.

Sarah Corbett
Caersws CP School

Trefnwyd y digwyddiad mor dda ac roedd yr holl ddiweddariadau cyn y diwrnod o gymorth mawr. Mae disgyblion wedi mwynhau gwrando ar berfformiadau ysgolion eraill, ac mae dysgwyr nad ydynt fel arfer yn cystadlu wedi cael cyfle i wneud hynny. Roedd y cystadlaethau gwaith dosbarth hefyd yn ychwanegiad gwych. Roedd y cyflwynwyr yn arbennig gyda’r cystadleuwyr, a phawb yn teimlo’n gyfforddus.

Nia Thomas
Pennal and Dyffryn Dulas Federation
Alex Morgan
Glyncorrwg Primary School

e-tholiad

Trefnwyd y prosiect e-tholiad gyda Thîm Senedd Cymru gan roi cyfle i ddysgwyr ddysgu am waith y Senedd a'i Aelodau.

Gair gan yr athrawon

Mae gan y dysgwyr fwy o ddealltwriaeth o’r Senedd…nid yw’n rhywbeth y byddwn wedi’i ddysgu iddynt… mae’n bwnc dilys, perthnasol i CiG.

Cewri Cymru

Byddwch yn barod i gychwyn ar daith ddiddorol drwy wasanaethau digidol, wrth i ni gyflwyno 'Cewri Cymru'; cyfres o sesiynau addysgol sy’n taflu goleuni ar unigolion nodedig sydd wedi manteisio ar eu gallu i siarad Cymraeg.

Gwnewch y mwyaf o'r adnodd rhad ac am ddim hwn a fydd yn cyfoethogi eich Cwricwlwm Cymreig!

Cewch fynediad i'r rhestr chwarae Youtube isod.
Trefnwyd y prosiect e-tholiad gyda Thîm Senedd Cymru gan roi cyfle i ddysgwyr ddysgu am waith y Senedd a'i Aelodau.
Cewi Cymru Promotional Image

Gweler dolenni at 11 lefel gwahaniaethol o adnoddau llythrennedd yn y disgrifiad o dan bob fideo YouTube unigol, neu drwy ymweld â’r dudalen Adnoddau Llythrennedd.

Hoffai e-sgol ddiolch i bob Awdurdod Addysg Lleol sydd wedi cynorthwyo gyda churadu Cewri Cymru.

Gair gan yr athrawon

Mae dysgwyr yn mwynhau'r cyfle i wrando ar unigolion enwog o gefndiroedd amrywiol yn egluro sut mae'r Gymraeg wedi eu helpu i gyrraedd uchelfannau eu gyrfaoedd. Mae'r isdeitlau ar y fersiynau cyfrwng Saesneg wir yn helpu'r rhai sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith neu iaith ychwanegol hefyd.

Rebecca Watts
Ysgol Bro Tawe

Mae’r fideos yn galluogi dysgwyr i glywed y Gymraeg yn cael ei defnyddio’n weithredol, a sut i ddefnyddio’r iaith yn gywir eu hunain.

Fiona Haine
Forden CiW School
© 2026 e-sgol. Cedwir Pob Hawl.