e-sgol logo

Telerau ac Amodau

Argymhellir eich bod yn darllen y telerau ac amodau hyn yn ofalus cyn defnyddio'r wefan hon. Os ydych yn parhau i bori a defnyddio'r wefan hon, rydych yn cytuno i gydymffurfio â'r telerau ac amodau defnydd canlynol a bod yn rhwym iddynt. Os ydych yn anghytuno ag unrhyw ran o'r telerau ac amodau hyn, peidiwch â ymweld â defnyddio ein gwefan.

Mae'r wefan yn cael ei gweithredu gan e-sgol (“Ni”) ac wedi'i chreu a'i lletya gan Vovi, ein dewis cwmni dylunio gwe. I gysylltu â ni, anfonwch e-bost at ymholiadau@e-sgol.cymru.

Diben y Wefan

Mae cynnwys tudalennau'r wefan hon yn hollol addysgol ac wedi'i fwriadu i rannu a hyrwyddo gwybodaeth gyffredinol am brosiect e-sgol. Mae'r wefan yn cael ei chyfeirio'n bennaf at bobl sy'n byw yng Nghymru gyda ffocws ar bobl sydd â diddordeb mewn addysg. Efallai y bydd pobl o du allan i Gymru yn cael mynediad i'r wefan, fodd bynnag, efallai na fydd y cynnwys yn briodol. Bydd y wefan yn cael ei diweddaru o bryd i'w gilydd i wella'r cynnwys, felly mae'n destun newid heb rybudd.

Mae eich defnydd o unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau ar y wefan hon yn gyfan gwbl ar eich risg eich hun, ac ni fyddwn yn atebol. Eich cyfrifoldeb chi fydd sicrhau bod unrhyw wasanaethau neu wybodaeth sydd ar gael trwy'r wefan hon yn diwallu eich gofynion penodol chi.

Hawliau Eiddo Deallusol

Mae'r cynnwys ar y wefan hon, gan gynnwys testun, logos a delweddau, yn perthyn i brosiect e-sgol. Gallwch gopïo gwybodaeth o'r wefan hon i'w rhannu mewn modd proffesiynol, ond gall unrhyw ailbwrpasu neu olygu unrhyw gynnwys, gan gynnwys delweddau a/neu fideos, heb ganiatâd arwain at weithredu yn eich erbyn.

Cewch ddyfynnu o'r wefan hon cyn belled ag y byddwch yn nodi eich bod yn dyfynnu gwefan e-sgol ac yn cynnwys ein URL.

Cewch gysylltu yn ôl i'n gwefan o'ch un chi neu wefan arall heb ein caniatâd ar yr amod nad ydych yn honni neu'n awgrymu ein bod yn gysylltiedig â'ch gwefan neu'n ei chefnogi. Os hoffech siarad â ni am gysylltiad neu gefnogaeth o'r fath, cysylltwch â ni ar ymholiadau@e-sgol.cymru.

Nid ydym yn gyfrifol am wefannau rydym yn cysylltu â nhw

Lle mae ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill ac adnoddau a ddarperir gan drydydd partïon, darperir y dolenni hyn er gwybodaeth i chi yn unig. Nid ydym wedi adolygu'r gwefannau allanol hyn, nid ydym o reidrwydd yn cymeradwyo cynnwys y wefan gysylltiedig, nid oes gennym reolaeth dros eu cynnwys ac nid ydym yn gyfrifol am eu cynnwys.

Sut y gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol

Byddwn ond yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol fel y nodir yn ein Hysbysiad Preifatrwydd.

Cwcis

Rydym yn defnyddio cwcis i nodi ymwelwyr â'r wefan ac i olrhain pa dudalennau maent yn ymweld â nhw a pha mor hir y maent yn aros er mwyn gwella cynnwys y wefan. Gallwch rwystro cwcis trwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar eich porwr gwe, ond gall hyn effeithio ar eich defnydd o'r wefan.

© 2024 e-sgol. Cedwir Pob Hawl.