Amdanom Ni

aMae prosiect e-sgol yn seiliedig ar y prosiect e-sgoil yn yr Alban.  Yn dilyn ymweliadau gan swyddogion Llywodraeth Cymru a Cheredigion yn 2016 a 2017, penderfynwyd treialu prosiect tebyg yng Nghymru.  Cyngor Ceredigion gafodd y gwaith o dreialu blwyddyn gyntaf y prosiect.  Yn ystod y flwyddyn gyntaf, cynigiwyd y prosiectau canlynol:

Mathemateg Bellach Safon Uwch yn Ysgol Bro Pedr

Drama Safon Uwch yn Ysgol Bro Teifi

Cerddoriaeth TGAU yn Ysgol Aberaeron

Yn y flwyddyn gyntaf, cynhaliwyd lansiad y prosiect ym Mro Pedr, gyda Kirsty Williams yn agor y prosiect yn swyddogol:

Llywodraeth Cymru’n nodi lansiad Cynllun Gweithredu Addysg Wledig newydd gyda phrosiect ‘E-sgol’ arloesol | LLYW.CYMRU

https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-45824478

Yn 2019/20 ymunodd Powys â’r prosiect, a chynyddodd nifer y pynciau, gyda’r pynciau canlynol yn cael eu cynnig erbyn hyn:

2020/21: Pynciau/Cyrsiau
Maths Bellach – Uwch Gyfrannol a Safon Uwch Troseddeg – Uwch Gyfrannol a Safon Uwch
Daearyddiaeth – Uwch Gyfrannol a Safon Uwch Electroneg – Safon Uwch
Ffrangeg – Uwch Gyfrannol a Safon Uwch Almaeneg – Safon Uwch
Cymraeg Ail Iaith – Uwch Gyfrannol a Safon Uwch Seicoleg – Uwch Gyfrannol
Cyfrifiadureg – Uwch Gyfrannol a Safon Uwch Cymraeg (Iaith Gyntaf) – Uwch Gyfrannol
Cymdeithaseg – Uwch Gyfrannol a Safon Uwch TGCh – Uwch Gyfrannol
Gwleidyddiaeth – Uwch Gyfrannol a Safon Uwch Busnes – Uwch Gyfrannol
Drama – Uwch Gyfrannol a Safon Uwch Y Gyfraith – Uwch Gyfrannol

Ochr yn ochr â chyrsiau sy’n cael eu cynnig yng Ngheredigion a Bro Myrddin yn Sir Gaerfyddin, cynigiwyd cyrsiau e-sgol gan bob ysgol uwchradd ym Mhowys.

Gan symud ymlaen i 2020/2021, ymunodd 6 ysgol cyfrwng Cymraeg o Ogledd Cymru â’r prosiect.  Mae’r cyrsiau sydd ar gael i ddisgyblion yn y flwyddyn academaidd hon i’w gweld yma.