Mae Cynhadledd e-sgol 2024 yn dod ag athrawon cynradd, uwchradd, awdurdodau lleol a sefydliadau perthnasol ynghŷd.

Bydd y Gynhadledd yn cynnwys cyflwyniadau gan siaradwyr o’r byd addysg, ardal marchnad i amrywiol sefydliadau hyrwyddo eu gwaith, a gweithdai ar bynciau penodol.

Dyma gyfle i athrawon ac ymarferwyr addysg ddysgu mwy am waith e-sgol a phartneriaid.

Siaradwr Gwadd

Y Siaradwr Gwadd fydd Simon Thomson, Cyfarwyddwr Dysgu Hyblyg ym Mhrifysgol Manceinion, sydd hefyd tu ôl Digisim.

Y Gynhadledd

Dyddiad: 12yh, dydd Iau 04 Gorffennaf, 2024.

Lleoliad: Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin, SA32 8HG.

Trefn y prynhawn

12yh: Cinio a sgwrsio

1yh: Croeso gan Llifon Ellis, Pennaeth Strategol e-sgol

Simon Thomson, Prifysgol Manceinion

Huw Davies, Arweinydd Cynradd e-sgol – Y daith Cynradd hyd yma

2yh: Gweithdai

  • Adnoddau Carlam Cymru
  • Beth yw cynlluniau sector Cynradd e-sgol?
  • Profiad dysgu ar-lein Euryn Madoc-Jones
  • Sut mae cwrs cydweithredol e-sgol yn gweithio yn yr Uwchradd

Stondinau

  • Cam wrth Gam, Mudiad Meithrin
  • Canolfan Gwasanaethau Cymraeg (Peniarth & Rhagoriaeth)
  • CBAC
  • Cymwysterau Cymru
  • Cyngor Llyfrau Cymru
  • CYDAG (Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg)
  • Gweld Gwyddoniaeth
  • Hwb Sgiliau Hanfodol
  • New Directions Education
  • Profi
  • science made simple
  • Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Cofrestru:

Cliciwch yma i gofrestru i fynychu’r Gynhadledd.

Cynhadledd 2023

Medrir gweld cip ar Gynhadledd e-sgol 2023 yma.