
Dydd Iau, 7 Gorffennaf
13:00-16:15
Bydd cynhadledd e-sgol yn rhoi cyfle i chi glywed am y gwahanol brosiectau sydd ar y gweill gennym yn ogystal â chlywed gan randdeiliaid eraill sy’n ymgysylltu ag e-sgol. Porwch drwy’r wybodaeth isod i ddarganfod mwy ac i gofrestru eich diddordeb mewn mynychu’r gynhadledd rithwir.
Cyflwyniad Agoriadol - 13:00-13:30
Amser – 13:00-13:30
Bydd y sesiwn gychwynnol yn cynnwys neges agoriadol a throsolwg o’r prosiect e-sgol yn ogystal ag anerchiad gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.
Dolen i ymuno â’r gweithdy – cliciwch yma
Sesiwn 1 - Profiad ysgol e-sgol 13:40-14:15
Amser – 13:40-14:10
Bydd gennych opsiwn i ymuno â gweithdy cyfrwng Cymraeg neu weithdy cyfrwng Saesneg.
Bydd y gweithdai hyn yn rhoi cyfle i chi ddysgu sut mae dwy ysgol o Gymru yn defnyddio e-sgol i ddarparu cyfleoedd cwricwlaidd i’w disgyblion, a gwybodaeth am y cwrs e-sgol y maent yn ei gynnal yn eu hysgolion.
Ysgol Y Creuddyn (cyflwyniad cyfrwng Cymraeg)
Dolen i ymuno â’r gweithdy – cliciwch yma
Newtown High School (cyflwyniad cyfrwng Saesneg)
Dolen i ymuno â’r gweithdy – cliciwch yma
Sesiwn 2 - Microsoft Innovative Educator 14:25-14:55
Amser- 14:25-14:55
Bydd gennych opsiwn i ymuno â gweithdy cyfrwng Cymraeg neu weithdy cyfrwng Saesneg.
Bydd y gweithdai hyn yn cael ei chyflwyno gan Arbenigwr Addysgwr Arloesol Microsoft, lle byddant yn rhannu ffyrdd effeithiol o ddefnyddio offer Microsoft gyda’ch dysgwyr.
Gweithdy Cymraeg
Dolen i ymuno â’r gweithdy – cliciwch yma
Gweithdy Saesneg
Dolen i ymuno â’r gweithdy – cliciwch yma
Sesiwn 3 - Carlam Cymru 15:05-15:35
Amser – 15:05-15:305
Bydd gennych opsiwn i ymuno â gweithdy cyfrwng Cymraeg neu weithdy cyfrwng Saesneg.
Bydd y gweithdai hyn yn canolbwyntio ar sesiynau adolygu Carlam Cymru a bydd yn rhoi gwybodaeth i chi am y sesiynau a chynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Gwieithdy Cymraeg (a gynhelir gan Rhian Rees-Thorne)
Dolen i ymuno â’r gweithdy – cliciwch yma
Gweithdy Saesneg (a gynhelir gan Stephen Williams)
Dolen i ymuno â’r gweithdy – cliciwch yma
Sesiwn 4 - CBAC Adnoddau Dysgu Cyfunol 15:45-16:15
Amser – 15:45-16:15
Bydd gennych opsiwn i ymuno â gweithdy cyfrwng Cymraeg neu weithdy cyfrwng Saesneg.
Mae CBAC wedi creu cronfa o adnoddau digidol, gan gynnwys cyfres o fodiwlau Dysgu Cyfunol, y gall athrawon eu defnyddio gyda’u dysgwyr. Bydd y gweithdai hyn yn rhoi trosolwg i chi o’r adnoddau.
Gweithdy Cymraeg
Dolen i ymuno â’r gweithdy – cliciwch yma
Gweithdy Saesneg
Dolen i ymuno â’r gweithdy – cliciwch yma
Cofrestrwch eich Diddordeb
Cwblhewch y ffurflen ganlynol i fynegi eich diddordeb mewn mynychu’r gynhadledd e-sgol. Trwy lenwi’r ffurflen byddwch yn derbyn gwybodaeth uniongyrchol am y gynhadledd.
I wylio’r gweithdai o’r cynadleddau blaenorol, cliciwch ar y botwm perthnasol