Gwybodaeth i Rieni

Beth yw e-sgol?

Mae e-sgol yn brosiect sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo ysgolion mewn ardaloedd gwledig yn bennaf gyda’u darpariaeth chweched dosbarth a’u darpariaeth cyfrwng Cymraeg.   Egwyddor ganolog e-sgol yw sicrhau bod dysgwyr, ble bynnag maent wedi’u lleoli, yn cael cyfleoedd i astudio pynciau nad ydynt ar gael yn eu hysgolion efallai.

Darperir y gwersi gan ddefnyddio dulliau dysgu cyfunol drwy gyfrwng Hwb.  Defnyddir Microsoft Teams i gynnig y gwersi fel Amgylchedd Dysgu Rhithwir, a defnyddir Microsoft OneNote i greu nodiadau ac arnodi cyflwyniadau.  Mae’r holl staff, athrawon, Technegwyr TG, a’r dysgwyr eu hunain yn cael hyfforddiant cyn i’r gwersi ddechrau, ac yna ar adegau niferus yn ystod y flwyddyn.

Wrth i’r plant symud o TGAU i Safon Uwch , mi all rhieni fod â llawer o gwestiynau am beth sydd orau ar gyfer eu plentyn.  Sut mae gwersi e-sgol yn cyd-fynd â hyn?  Gwyliwch y fideo canlynol:

Os oes gennych chi gwestiynau, ewch i Cwestiynau a Ofynnir yn Aml neu cysylltwch â ni ar ymholiadau@e-sgol.cymru.

Mae rhai pethau ichi eu hystyried wedi’u nodi isod:

  1. Bydd nosweithiau rhieni ac adroddiadau’n digwydd yn unol ag amseriad y calendr ysgol. Gallwch gymryd rhan yn y noson rieni drwy fideo.
  2. Gall rhieni dderbyn adroddiadau am weithgareddau wythnosol sy’n cael eu hystyried ar Teams.
  3. Bydd eich plentyn yn derbyn gliniadur (ac ysgrifbin) i’w defnyddio mewn gwersi, yn ogystal â gartref.
  4. Trwy ddefnyddio OneNote mi fydd gan eich plentyn fynediad at nid yn unig ei nodiadau’i hun, ond nodiadau’r athro hefyd.

Ewch i’n Astudiaethau Achos i ddarllen am brofiadau dysgwyr blaenorol.