Gwybodaeth i Ysgolion
Ers Mesur Dysgu a Sgiliau 2009 mae ysgolion mewn ardaloedd gwledig ac ysgolion cyfrwng Cymraeg wedi’i chael hi’n anodd darparu dewislen o 30 o bynciau ar gyfer eu dysgwyr. Mae e-sgol yn darparu ateb i’r broblem hon ar gyfer ysgolion ac awdurdodau lleol yn gyffredinol. Defnyddir dull cyfunol i addysgu pynciau drwy e-sgol. Yn gyffredinol, mae hynny’n golygu’r canlynol:
1. Ar ddechrau bob hanner tymor, bydd y dysgwyr yn teithio i’r ysgol sy’n darparu’r cwrs e-sgol i gael sesiwn wyneb yn wyneb. Mewn rhai ardaloedd, byddant yn teithio fwy nag unwaith bob hanner tymor; mae angen pennu hyn ar ddechrau pob blwyddyn.
Mae’r sesiynau hyn yn bwysig er mwyn i’r dysgwyr ddod i adnabod yr athro/athrawes, ond hefyd i gwrdd â’r dysgwyr eraill. Bydd hyn yn sicrhau bod y dysgwyr yn teimlo’n hyderus i ofyn cwestiynau yn eu hystafell ddosbarth rithwir.
2. Pan nad ydynt yn teithio i gael gwersi wyneb yn wyneb, bydd y dysgwyr yn cael gwersi rhithwir drwy Microsoft Teams a OneNote. Bydd staff a dysgwyr yn defnyddio’u cyfrifon Hwb i brosesu’r rhain.
Mae prosiect e-sgol wedi datblygu fframwaith all gynnig a chynnal profiad addysgol amrywiol, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, ar gyfer dysgwyr Cyfnod Allweddol 4 a 5. I gynorthwyo darpar ranbarthau, awdurdodau lleol ac arweinwyr ysgol, bydd tîm e-sgol yn cynnig yr elfennau canlynol i sicrhau bod y prosiect yn cael ei weithredu’n llwyddiannus:
-
- Gweithio gyda’r awdurdod lleol (ALl) neu’r arweinydd/arweinwyr ysgol i ddarparu model sy’n addas i’r clwstwr, awdurdod lleol neu ranbarth dan sylw.
- Darparu arweiniad ar y dewis mwyaf addas o glwstwr/glystyrau ar gyfer yr ysgol/awdurdod lleol/rhanbarth, i sicrhau cyn lleied â phosib o amser teithio, ond y nifer uchaf posib o bynciau ar gyfer y dysgwyr.
- Darparu arweiniad ar y dewis gorau o bynciau i’w cynnig drwy e-sgol ar gyfer yr ysgol a’r clwstwr dan sylw.
- Cynnig hyfforddiant ac arweiniad i uwch dimau rheoli i sicrhau bod y prosiect e-sgol yn cael ei weithredu yn y ffordd fwy effeithlon o fewn yr awdurdod lleol neu’r ysgol.
- Ar y cyd â Gwasanaeth TGCh yr ALl, darparu hyfforddiant a chymorth i dechnegwyr TG, i sicrhau bod yr offer gofynnol ar gael a’i fod yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol posib, i ddarparu profiad dysgu positif i ddysgwyr a staff fel ei gilydd.
- Trwy gydol y flwyddyn academaidd, bydd tîm e-sgol, ar y cyd â Gwasanaethau TGCh yr ALl a/neu Dechnegwyr TG yn darparu cymorth i nodi a datrys problemau cyn gynted â phosib. Bydd tîm e-sgol yn cydweithio â Gwasanaethau TGCh yr ALl i sicrhau bod y dechnoleg ddiweddaraf ym maes addysg yng Nghymru ar gael bob amser.
- Darparu hyfforddiant pedagogaidd a thechnegol parhaus ar gyfer staff i sicrhau eu bod yn hyderus a’u bod yn darparu profiad dysgu positif wrth gyflwyno’u cwrs drwy e-sgol.
- Bydd e-sgol yn cydgysylltu’r pynciau ar draws pob ysgol i leihau’r baich i staff o fewn ysgolion a/neu Awdurdodau Lleol.
Bydd cydgysylltwyr e-sgol yn darparu hyfforddiant a chymorth i ddysgwyr i sicrhau eu bod yn cael y profiad gorau. Er mwyn gwella profiad y dysgwyr ymhellach, bydd tîm e-sgol hefyd yn darparu rhieni â sesiwn ymwybyddiaeth i sicrhau eu bod yn deall y dull e-sgol.
“e-sgol yw’r ffordd ymlaen i bynciau lleiafrifol. Hyblygrwydd a chyfrathebu â staff e-sgol yw’r ddwy elfen allweddol i sicrhau bod y prosiect hwn yn llwyddo yn eich ysgol chi”