Gwybodaeth i Ddysgwyr

Mae e-sgol yn brosiect sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo ysgolion mewn ardaloedd gwledig yn bennaf gyda’u darpariaeth chweched dosbarth a’u darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Egwyddor ganolog e-sgol yw sicrhau eich bod chi fel dysgwyr, ble bynnag rydych wedi’ch lleoli, yn cael cyfleoedd i astudio pynciau nad ydynt ar gael ichi eu hastudio yn yr ysgol efallai.

Darperir y gwersi gan ddefnyddio dulliau dysgu cyfunol drwy gyfrwng Hwb. Defnyddir Microsoft Teams i gynnig y gwersi fel Amgylchedd Dysgu Rhithwir, a defnyddir Microsoft OneNote i greu nodiadau ac arnodi cyflwyniadau. Mae pob dysgwr yn cael hyfforddiant cyn i’r gwersi ddechrau, ac yna ar adegau niferus yn ystod y flwyddyn.

Os ydych chi’n poeni nad yw’r pynciau rydych wedi’u dewis â niferoedd digon uchel i gael eu darparu, does dim angen ichi boeni, oherwydd gall e-sgol ddatrys y broblem hon! Mae e-sgol yn brosiect sy’n cael ysgolion i gydweithio, mewn clystyrau penodol fel arfer, er mwyn gallu cynnig pynciau gyda niferoedd isel. Mae’r pynciau a gynigir drwy’r prosiect ar hyn o bryd i’w gweld ar y dudalen gyrsiau (ychwanegwch hyperddolen i’r dudalen gyrsiau).

Pwyntiau pwysig i ddysgwyr sy’n astudio pynciau e-sgol eu hystyried:

  • Byddwch yn defnyddio’ch cyfrif Hwb ar gyfer gwersi.  Os nad ydych chi’n gwybod amdano, gallwn ddod o hyd iddo!
  • Mae’r prosiect yn defnyddio Microsoft Teams gyda OneNote i hwyluso’r gwersi.
  • Ni fydd yr holl addysgu’n digwydd drwy Microsoft Teams. Mi fyddwch chi’n teithio unwaith bob hanner tymor, o leiaf, i gael gwersi wyneb yn wyneb.