Beth yw Hwb?
Mae Hwb, y Platfform Dysgu Cenedaethol Digidol, yn gasgliad cenedlaethol o offer ac adnoddau digidol sy’n cynorthwyo dysgu ac addysgu yng Nghymru.
Datblygwyd Hwb yn unol â’r egwyddorion allweddol canlynol:
-
- i gefnogi dull cenedlaethol o gynllunio a darparu
- i rannu sgiliau, dulliau ac adnoddau rhwng athrawon yng Nghymru
- i gefnogi dysgu ac addysgu yn Gymraeg a Saesneg
- i gynnig mynediad cyfartal at offer ac adnoddau ystafell ddosbarth am ddim i holl athrawon a dysgwyr Cymru.
Mae Hwb yn caniatáu i ddysgwyr ac athrawon gael mynediad at adnoddau ar-lein yn unrhyw le, ar unrhyw adeg, o amryw o ddyfeisiau gwahanol. Mae hefyd yn darparu offer i helpu athrawon greu a rhannu eu hadnoddau a’u haseiniadau eu hunain.
Fideos yn esbonio Hwb – mae Hwb wedi esblygu