Bydd y gynhadledd e-sgol yn rhoi cyfle i chi glywed am y gwahanol fentrau y mae e-sgol yn gweithio arnynt, gan gynnwys Ymlaen Gyda’r Dysgu, Carlam Cymru a’n Cymuned Dysgu Proffesiynol.
Cynhelir y gynhadledd yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, ond bydd y cyflwyniadau’n cael eu darlledu’n fyw er mwyn i fynychwyr o bob rhan o Gymru allu dilyn. Ar ôl y cyflwyniadau, bydd y mynychwyr yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn cael cyfle i ymgysylltu ag aelodau o dîm e-sgol ac ymweld ag amrywiol stondinau marchnad a fydd yn dangos beth yw e-sgol a sut mae’n gweithio.