Croeso i e-sgol!
Rydym yn falch iawn eich bod wedi dewis dilyn un o gyrsiau e-sgol a gobeithio y cewch fudd mawr o’r profiad. Fel rhan o’r cytundeb mae disgwyl i chi dderbyn amodau penodol i’n galluogi ni i ddarparu’r profiad gorau i chi.
Er mwyn derbyn yr offer priodol ar gyfer eich cwrs e-sgol, bydd angen i chi llenwi’r bocsys isod i gyd. Er mwyn cael y gorau o’r cwrs e-sgol, cytunaf i:
Diweddaru Windows 10
Ar adegau bydd Windows 10 angen ei ddiweddaru, felly i osgoi amharu ar wersi, dylid gwirio’r cliniadur adref o leiaf unwaith y mis a’i adael i ddiweddaru.
- Efallai y gwelwch bod “updates” yn cael eu cynnig i chi;
- Os yn dweud “You’re up to date”, cliciwch “Check for updates”;
- Os oes rhai newydd yn ymddangos, arhoswch i’r “updates” orffen a dilynwch y cyfarwyddiadau, ee “restart”.