Pam wnaethoch chi fel ysgol ddewis cynnig cwrs e-sgol?

Mae’n bwysig i ni ac I’n dysgwyr i gadw addysg ôl-16 o fewn ysgolion, ac rydyn ni am fod yn rhan o unrhyw gydweithio sy’n cyfrannu at hynny.

Hefyd, mae’n hanfodol bod ein dysgwyr yn cael y cyfle i astudio pynciau llai poblogaidd a fyddai’n amhosib eu cynnal heblaw am brosiect fel esgol.  Yn achos Cymraeg ail iaith, mae hynny’n arbennig o bwysig, neu fyddai ddim cyfle I nifer o ddysgwyr ail iaith Powys dysgyu’r iaith y neu hysgolion nhw.

Beth oedd ymateb cychwynnol yr athrawon a ofynnwyd i ddysgu cwrs e-sgol?

Roedd y prosiect yn cynrychioli newid mawr yn ein ffordd o weithio, ac hefyd, fel gyda llawer o brosiectau, mae nifer ohonyn ni wedi dechrau lawr y llwybr yma o’r blaen, ond i weld bod pethau ddim yn newid yn y pendraw!  Hefyd, roedd y pryderon i ni am ddysgu iaith drwy camera a sgrîn.  Ond, gyda’r pryderon, roedd agwedd proffesiynol, pragmataidd a gyda dealltwriaeth o’r hyn a oedd yn bwysig i’n dysgwyr ni a dysgwyr de Powys i gyd.

Beth yw manteision o ddarparu cwrs e-sgol?

Yn fras, rydyn ni’n cael cyflawni cwrs fel ail iaith.  Hefyd, gyda’r holl newidadau a datblygiadau achos Covid, mae’r athrawon e-sgol wedi bod tipyn o flaen y gad ymlith eu cydweithwyr yn yr ystafell athrawon, ac wedi bod yn barod i rannu’r pethau y maen nhw wedi eu dysgu.  Hefyd, fel aeold o’r uwch dîm, roeddwn i’n teimlo’n llawer fwy cyfforddus wrth arwain ar ddysgu ac addysgu wrth i’r byd dechrau dysgu termau fel ‘dysgu cyfunol’, ‘dysgu cydamserol’ a ‘dysgu anghydamserol’.  Roeddwn i /roedden ni eisioes yn rhan o Gymuned Ddysgu Broffesiynol, yn rhanu syniadau a phrofiadau am ddysgu o bell.

Pa effaith y mae darparu cwrs e-sgol wedi’i gael ar y disgyblion?

Mae rhai wedi cael gwneud cyrsiau a oedd ddim ar gael iddyn nhw o’r blaen, fel seicoleg a gwleidyddiaeth.  Maen nhw i gyd wedi cael y cyfle i gwrdd â phobl newydd, hyd yn oed os ond yn rhithwir.  Mae e wedi helpu cryfhau eu sgiliau TGCh nhw cyn iddyn nhw fynd i’r prifysgol a’r byd Gwaith.

Pa lefel o gefnogaeth ydych chi wedi’i derbyn o’r prosiect e-sgol sydd wedi’ch helpu chi i ddarparu’r ddarpariaeth e-sgol?

Lefel hollol bespoke i ni.  Dyna’r cyfder mwyaf.  Mae’r prosiectau fel hyn yn gweithio neu’n fethu ar safon y cyfathrebu a’r perthnasau, a os ydy pobl yn gweithio’n onest ac yn dryloyw, fel mae’r perthynas gydag esgol, mae’r sylfaen yno am lwyddiant.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i ysgol sy’n ystyried dysgu ymgysylltu a darparu darpariaeth e-sgol?

Ymgysylltu yw’r gair pwysig os ydych am ddarparu.  Mae rhaid i chi gyfathrebu’n onest ac yn dryloyw.  A cofiwch nid prosiect eich ysgol chi ydy e.  Mae’r gymuned wedi tyfu ac mae hynny’n peth da!  Mae cydweithio’n allweddol.

Beth yw dyfodol darpariaeth e-sgol yn eich ysgol?

Twf os rhywbeth.  Rydyn ni’n darparu dau gwrs ar hyn o bryd, yn cynnwys cwrs sydd wedi golygu penodi athrawes sy’n byw ac yn gweithio o dramor.  Mae ein dysgwyr yn elwa o bump gwahanol gwrs o bedair ysgol (yn gynnwys ni) yn barod.  Mae’n gweithio i ni, a hoffen ni wneud mwy.  Yr unig broblem sy’n ein wynebu yw diffyg lle iddyn nhw i gyd!