Pam wnaethoch chi fel ysgol ddewis cynnig cwrs e-sgol?

Roedd bod rhan o’r prosiect oedd yn golygu gallai ein myfyrwyr gael mynediad at ystod eang o gyrsiau ychwanegol. Ar ôl esbonio’r prosiect gyda’r athrawon roedden nhw’n brwdfrydig iawn i fod yn rhan o’r prosiect.

Beth yw manteision o ddarparu cwrs e-sgol?

Yn mantais mwyaf yw bod y disgyblion yn gael mynediad at gyrsiau eraill newydd, trwy darpariaeth technolegol. Hefyd mae’r cefnogaeth mae’r staff wedi derbyn cefnogaeth sydd ar gael ledled Cymru.

Pa effaith mae darparu cwrs e-sgol wedi’i gael ar yr aelodau staff sy’n dysgu cwrs e-sgol?

Mae llawer o fantais i’r athrawon o fod yn rhan o’r proseict ond yn bennaf mae’r athrawon wedi elwa o gysylltu gydag ysgolion eraill, a wedi cael y cyfle i uwch sgilio o ran defnydd TGCh.

Pa effaith y mae darparu cwrs e-sgol wedi’i gael ar y disgyblion?

Mae’r disgyblion wedi cael mynediad at gyrsiau newydd na fyddai ar gael fel arall. Ac yn debyg i’r athrawon mae’r disgyblion wedi cael y cyfle i gysylltu gydag ysgolion eraill ac wedi cael y cyfle i uwch sgilio o ran defnydd TGCh.

Pa lefel o gefnogaeth ydych chi wedi’i derbyn o’r prosiect e-sgol sydd wedi’ch helpu chi i ddarparu’r ddarpariaeth e-sgol?

Rydym wedi derbyn lefel uchel iawn o gefnogaeth gan e-sgol a byddai’n anodd gofyn am rhagor!

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i ysgol sy’n ystyried rhoi cyfle i’w disgyblion ddewis cwrs e-sgol i’w astudio?

Yn bendant byddaf yn awgrymu bod ysgolion yn cysylltu gyda ysgolion eraill sydd wedi ymgysylltu â’r prosiect. Mae’n naturiol bod rhywfaint o amheuaeth o gwmpas cyrsiau dysgu o bell, ond mae’r gwirionedd am gyrsiau e-sgol yn wahanol iawn.

Beth yw dyfodol darpariaeth e-sgol yn eich ysgol?

Fel ysgol rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld y brosiect yn tyfu, gyda darpariaeth ehangach fyth o gyrsiau ar gael yn fuan iawn ar gyfer ein disgyblion.