Pam wnaethoch chi fel ysgol ddewis cynnig cwrs e-sgol?

Er mwyn gallu cynnig well ystod o bynciau ar gyfer y chweched. Mae’n 6ed dosbarth ni’n gymharol fach ac mae’n anodd cystadlu efo’r coleg lleol o ran darpariaeth. Roedd hefyd yn gyfle i gydweithio efo ysgolion eraill sydd bob amser yn braf.

Beth yw manteision o ddarparu cwrs e-sgol?

Prif fantais yw cael mynediad i gyrsiau fel TGCh, yn ein achos ni fyddai wedi bod yn anodd iawn ei ddarparu fel arall oherwydd diffyg staff arbenigol. Mae mantesion ariannol hefyd a’r cyfle i ddiwygio offer TGCH.

Pa effaith mae darparu cwrs e-sgol wedi’i gael ar yr aelodau staff sy’n dysgu cwrs e-sgol?

Ychydig o ‘stres’ ar y dechrau wrth osod pethau fyny ond dim problemau mawr chwaith. Mae’r cwrs Gyfraith yn newydd felly mae wedi caniatau iddynt ei sefydlu fel cwrs ar-lein o’r dechrau.

Pa lefel o gefnogaeth ydych chi wedi’i derbyn o’r prosiect e-sgol sydd wedi’ch helpu chi i ddarparu’r ddarpariaeth e-sgol?

Rydym wedi derbyn llawer o gefnogaeth gan y prosiect, gan gynnwys:

  • Cefnogaeth technegol i’r technegydd
  • Hyfforddiant Teams i’r athrawon
  • Cyfarfodydd efo arweinwyr o ysgolion eraill

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i ysgol sy’n ystyried dysgu ymgysylltu a darparu darpariaeth e-sgol?

Mae e-sgol yn werth ei wneud! Mae’n ffordd dda o gynnig pynciau sy’n anodd eu cynnig fel arall. Mae angen casglu gwybodaeth gan ddarpar fyfyrwyr yn ddigon buan i allu trefnu, ac mae angen dipyn o hyblygrwydd o ran amserlennu.

Beth yw dyfodol darpariaeth e-sgol yn eich ysgol?

Rydym yn awyddus I barhau a’r ddarpariaeth. Parhau I gynnig y Gyfraith a pharhau I dderbyn TGCH ac o bosibl pynciau and oes llawer o alw amdanynt yma.