Pwnc: TGCh

Sut wnaeth eich ysgol hysbysu’r cyrsiau e-sgol? Doeddwn i heb glywed am e-sgol o’r blaen ond ar ôl iddyn ni dewis cwrs e-sgol, cysylltodd yr ysgol gyda ni er mwyn rhoi manylion am y cwrs dros e-sgol. Yna gofynnodd yr ysgol os roedden i ddal eisiau gwneud y cwrs yn y format yma.

Pam wnaethoch chi benderfynu dewis astudio cwrs e-sgol, a beth yw’r manteision? Penderfynais gwneud TGCh trwy e-sgol oherwydd teimlais bod llawer o bethau yn cael ei wneud gan ddefnydio technoleg ac felly bydd yn sgil defnyddiol ar gyfer y dyfodol. Cryfderau gwneud TGCh trwy e-sgol yw bod ganddym cyfrifoldeb personol i wneud y gwaith a troi fyny i’r gwersi, ac hefyd yn rhoi annibyniaeth i ni.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyrwyr eraill sy’n ystyried astudio cwrs(cyrsiau) e-sgol? Y petrusiad mwyaf oedd gen i oedd bod dim athro/athrawes yn mynd i bod yn yr ystafell dosbarth gyda ni. Ond mae’r cymorth gan yr athrawon e-sgol a’r athrawon eich ysgol ar gael yn gyson i gefnogi chi os mae angen. Mae e-sgol wedi bod yn help enfawr er mwyn datblygu annibyniaeth a cyfrifoldeb dros eich addysg. Ac yn olaf… paid a phoeni!