Beth oedd eich meddyliau cychwynnol am y prosiect e-sgol cyn i’r ysgol ddechrau rhedeg gyda’r cyrsiau e-sgol? Roedd fy meddyliau cychwynnol am y prosiect CYN dechrau rhedeg y cyrsiau e-sgol yn cymysg. Er fy mod yn gallu gweld buddion y prosiect, ac roedd yn wych y byddem yn gallu cynnig cyrsiau nad oeddem yn eu rhedeg ar hyn o bryd i’n myfyrwyr. Roedd hyn i gyd yn newydd iawn i ni ac roeddwn yn pryderu y byddai rhedeg rhywbeth newydd fel hyn yn cynyddu fy llwyth gwaith. Ond symud ymlaen i AR ÔL i ni dechrau rhedeg y cyrsiau, ni allwn fod wedi bod yn fwy anghywir! Mae’r disgyblion yn elwa o’r prosiect yn cael ei gynnal yn Ysgol Llanfyllin.

Pa mor hawdd oedd hi i sefydlu yr offer e-sgol (ystafell ddosbarth e-sgol athro a disgybl)?Roedd y ddogfennaeth a gawsom ni oddi wrth e-sgol yn gwneud y setup cyfan yn hawdd iawn i’w ddilyn. Roedd y ddogfennaeth /screenshot/ffotograffau wedi’u labelu’n glir yn egluro sut mae’r gwahanol gysylltiadau ac offer yn cysylltu. Cawsom ychydig o broblemau ar y dechrau gyda chyflwyno gliniaduron i’r myfyrwyr, ond cafodd hyn ei ddatrys yn gyflym ac mae’r disgyblion yn defnyddio’r dyfeisiau fel rhan achlysurol o’u gwersi.

Faint o gefnogaeth ydych chi’n darparu i’r athrawon a’r myfyrwyr ar ôl sefydlu’r offer perthnasol?Yn dilyn setup cychwynnol o’r offer, cymerais i’r amser i ymgyfarwyddo â’r setup fy hun fel fy mod i’n gwybod yn union sut roedd y caledwedd a meddalwedd yn gweithio a beth ellid ei wneud gyda’r offer. Unwaith roeddwn i’n teimlo’n gyffyrddus yn defnyddio’r offer, cynhaliais “weithdai bach” gyda’r staff a oedd yn mynd i fod yn defnyddio’r offer ar gyfer addysgu. Roedd gwneud yr hyfforddiant mewn sesiynau byr yn caniatáu i’r staff buddsoddi’r amser i sicrhau roeddent wedi deall beth oedd rhaid gwneud yn y gwersi.

Ar ôl i ni gyflwyno’r systemau, roedd y staff a’r myfyrwyr yn hapus ac yn gyfarwydd â’r defnydd ohonynt. Mae pawb hefyd yn gwybod fy mod ar gael am gefnogaeth pe bai unrhyw broblemau neu faterion yn cyrraedd naill ai yn ystod gwers neu y tu allan i wers.

Pa mor hawdd yw hi i gadw’r offer yn gyfredol ac mewn cyflwr da? (graddfa symudol bosibl) Nid yw hyn yn llawer o broblem gyda ni yn Ysgol Llanfyllin. Dangoswyd i fyfyrwyr a gofynnir iddynt i ddiweddaru system eu gliniaduron yn rheolaidd ac y dylid eu gwneud hyn yn ystod y nos neu yn ystod y penwythnos cyn unrhyw wersi felly nid oes amser segur ganddynt yn ystod eu gwersi e-sgol.