Pwnc: Busnes

A oeddech wedi clywed am e-sgol o’r blaen?

Roeddwn wedi gweld hysbyseb amdano trwy’r Sir ond fel arall heb glywed llawer amdano tan i gydlynydd e-sgol gysylltu gyda’r ysgol i weld os oedd gan yr ysgol ddiddordeb mewn cymryd rhan yn yr e-ddysgu.

Sut oeddech chi’n teimlo pan ofynnwyd i chi ddysgu trwy e-sgol?

Efallai fy mod yn eithaf ansicr i ddechrau a ddim yn rhy siwr sut oedd pethau am weithio ond roedd y cyrsiau/fideos a dderbynwyd gan staff o fewn yr e-sgol yn hynod ddefnyddiol ac yn ffordd dda o sicrhau ein bod yn magu mwy o hyder ar gyfer dysgu dros y we. Yn lwcus hefyd roedden wedi cael cryn dipyn o brofiad o addysgu dros y we yn ystod y cyfnod clo cyntaf felly roedd hyn yn fanteisiol iawn ar ddechrau’r broses.

Sut ydych chi’n teimlo am ddysgu trwy e-sgol nawr?

Yn sicr rwyf wedi magu hyder bellach a mae wedi bod yn fanteisiol i mi gael do di arfer a defnyddio Microsoft Teams gan ddysgu bod y cyfleon/pethau gall rhywun wneud arno yn ddi-ddiwedd. Rwyf yn sicr yn credo fy mod wedi deal sut mae creu gwersi yr run fatha buasai rhywun mewn dosbarth a sicrhau bod y cysylltiad rhwng yr athro ar dysgwyr yr run mor effeithiol a bod dysgwyr yn cadw diddordeb mewn gwers.

Beth yw manteision addysgu trwy e-sgol?

Y manteision mwyaf yw ei fod yn rhoi cyfle i ddysgwyr gymryd cyfrifoldeb dros ei hunain o fewn dosbarth ac yn debyg iawn i sut mae darlithoedd yn cael ei cynnal mae’r dysgwyr yn arwain y dysgu ac yn sicrhgau ei bod nhw yn cwblhau’r tasgau a’i hanfon i’r athro o fewn amser penodol. Mae hefyd yn cynnig nifer-eang o bynciau i ddysgwyr eu hastudio yn y 6ed dosbarth efallai na fydden nhw erioed wedi meddwl y byddai’n bosib felly mae llawer o fanteision.

Pa fath o gefnogaeth ydych wedi derbyn sydd wedi helpu eich sesiynau esgol?

Rwyf wedi cael amal i sesiwn dros fideo yn gweld sut mae pethau yn gweithio ar Microsoft TEAMS. Rydym hefyd yn derbyn diweddariad a fideos cyson os oes unrhyw newidiadau/adnoddau newydd ar gael i’w defnyddio ar TEAMS sydd yn help mawr fel ein bod yn gwneud y defnydd mwyaf ohonno.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau e-sgol?

Mae’n gyfle gwych i fyfyrwyr gael dewis pynciau sydd yn gysylltiedig a’r yrfa mae nhw eisiau ei dilyn, yno gystal a hyn mae’n golygu efallai ei bod yn gallu dewis ac astudio pwnc hollol wahanol i’r rhai sydd yn cael ei cynnig o fewn yr Ysgol. Byddaf yn sicr yn ei awgrymu i ddysgwyr eraill ond buaswn yn sicrhau ei bod yn gydywbodol ac yn fodlon rhoi’r gwaith angenrheidiol mewn yr run fath ac y buaswn nhw o fewn dosbarth