A oeddech wedi clywed am e-sgol o’r blaen?

Cawsom glywed am e-ssgol trwy’r ysgol tra’n rhannu gwybodaeth am y ddarpariaeth cyrsiau safon uwch oedd ar gael yno o fis Medi 2020.

Sut wnaeth yr ysgol eich hysbysu am gyrsiau e-sgol?

Roedd y disbyblion yn ymwybodol iawn o’r dewisiadau oedd ar gael iddynt, a ninnau fel rhieni hefyd yn cael y wybodaeth mewn nosweithiau rhieni. Rhanwyd llawer o wybodaeth i ni hefyd yng Nghyfnod y Covid ar wefan gymdeithasol yr ysgol o’r dewisiadau oedd ar gael flwyddyn 12.

Pa fanteision ydych chi’n teimlio sydd gan eich plentyn sy’n astudio cwrs e-sgol?

Mae manteision mawr i e-sgol.  Mae’n cynnig ystod eang o bynciau na fyddai’n cael eu cynnig fel arall a hyn o fantais fawr i’r dysgwyr, ac yn golygu fod ysgolion hefyd yn gallu rhannu arbenigedd athrawon sydd eto o fantais i’r disgyblion.  Mae gallu ei wneud o’r chweched dosbarth lleol hefyd yn fantais fawr gan ei bod yn cael cefnogaeth ei chyd-ddisgyblion a’r ysgol hefyd tra’n e-ddysgu.  Mae rhoi gluniadur iddynt gyflawni eu hastudiaethau wedi bod o fudd mawr hefyd ac yn gymorth mawr iddynt.

A oes unrhyw wybodaeth arall cyn i’r cwrs gychwyn a fyddai wedi bod yn ddefnyddiol i chi fel rhiant?

Roeddwn yn teimlo fod y wybodaeth yn glir a digonol.  Efallai i rai teuluoedd y byddai cael gwybod ymlaen llaw fod y disgyblion yn cael gliniadur i’w ddefnyddio fel rhan o’r cwrs wedi lleddfu eu pryderon os oedd gan y disgybl yr adnoddau addas i lwyddo yn y math yma o gwrs.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rieni eraill sydd â plant yn ystyried cyrsiau e-sgol?

O fy mhrofiad i fel rhiant mae’r cwrs yn llwyddiant mawr hyd yn hyn. Mae fy merch yn mwynhau y gwaith, yn dygymod yn rhwydd a’r e-sgol ac yn cael pob cefnogaeth gan hathro.  Mi fyddwn yn eu cynghori i beidio bod ofn mentro i lawr y llwybr yma.