Pwnc: Y Gyfraith

Sut oeddech chi’n teimlo pan ofynnwyd i chi ddysgu trwy e-sgol?

Yn y cychwyn doeddwn I ddim yn awyddus ar y syniad o e-sgol a mwy petrusgar o ran sut fyddai’r ddarpariaeth yn gweithio, ond er hynny roeddwn i’n awyddus i roi cynnig arni.

Sut ydych chi’n teimlo am ddysgu trwy e-sgol nawr?

Rydwyf wedi magu hyder yn araf iawn. Rydwyf yn teimlo’n hyderus erbyn hyn, rwan dw i wedi  arfer hefo’r dull newydd o ddysgu.

Beth yw manteision addysgu trwy e-sgol?

Yn sicir mae e-sgol yn cyfle i ehangu dewis disgyblion o bynciau y gallent eu hastudio ar gyfer Lefel A. O ystyried y sefyllfa rydym ynddi ar yn o bryd, yn caniatau i ddisgyblion fynychu y wers o adra os ydynt yn absennol o’r ysgol am unrhyw rheswm. Mae hefyd hynod defnyddiol i gadw deunydd cwrs yn ddiogel mewn un safle ar gyfer staff a disgyblion.

Pa fath o gefnogaeth ydych wedi derbyn sydd wedi helpu eich sesiynau esgol?

Rydym wedi derbyn llawer o tips yn dod drwy cydlynydd e-sgol, ac mae rhywun wrth law I ymuno yn y sesiynau os oes anhawsterau yn codi.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau e-sgol?

Erbyn hyn, mi faswn yn argymell e-sgol i unrhyw ysgol. Mae’n cynnig amrywiaeth ehangach o bynciau y gellir eu hastudio. Mae angen i fyfyrwyr fod yn ddisgybledig a threfnus hefo gwaith, a peidio bod ofn gofyn am gymorth (dim yn anghofio am yr athrawon hefyd). Hefyd mae bwysig i gofio i beidio pryderu gormod am gyfraniad disgyblion yn ystod y gwersi, mae’n amhosib i llenwi’r tawelwch.