Pam wnaethoch chi fel ysgol ddewis cynnig cwrs e-sgol?

Am ein bod mewn ardal wledig, mae e-sgol yn darparu’n myfyrwyr â’r cyfle i gael mwy o ddewis ar lefel ôl-16.  Yn Llanfyllin roeddem am roi dewis ehangach o gyrsiau posib i’n myfyrwyr, yn ogystal â chadw a denu cymaint o fyfyrwyr â phosib i’n 6ed dosbarth.

Beth oedd ymateb cyntaf yr athrawon pan ofynnwyd iddyn nhw addysgu cwrs e-sgol?

Mae’r ymateb cyntaf wedi bod yn hynod o bositif. Unwaith inni esbonio y byddai hyfforddiant, yn ogystal â’r offer gorau ar gael iddyn nhw, roedd yr athrawon yn hapus.

Beth yw buddiannau darparu cwrs e-sgol?

Y prif wahaniaeth a’r buddiannau yw ei fod yn lleihau’r angen i deithio (cyn Covid hynny yw). Mae e-sgol hefyd yn caniatáu i ddisgyblion ryngweithio ag athrawon a myfyrwyr o ysgolion eraill, ac yn bwysicaf oll, gall y myfyrwyr astudio cyrsiau nad ydynt ar gael fel arfer yn Llanfyllin.

Pa effaith mae darparu cwrs e-sgol wedi’i gael ar aelodau staff sy’n addysgu cwrs e-sgol?

Mae wedi cael effaith bositif iawn, yn enwedig o fewn yr hinsawdd bresennol o newid i ddysgu cyfunol yn ystod Covid. Maent wedi helpu i hyfforddi staff eraill mewn dysgu cyfunol ac maent yn darparu cymorth parhaus i nifer o aelodau staff.

Pa effaith mae darparu cwrs e-sgol wedi’i gael ar y disgyblion?

Mae’r myfyrwyr wrth eu boddau, maen nhw’n gwerthfawrogi’r cyfle i astudio pynciau sydd ddim ar gael yn yr ysgol efallai, ac maen nhw’n hoffi’r hyblygrwydd ac ansawdd yr adborth a gânt gan eu hathrawon.

Beth yw dyfodol darparu cyrsiau e-sgol yn eich ysgol chi?

Mae’r posibiliadau’n ddibendraw. Os ydy’r cyllid ar gael ar gyfer y dechnoleg, mi allai’r ysgol ddarparu nifer o bynciau priodol drwy e-sgol yn y dyfodol. Dwi’n gweld dyfodol disglair iddo, ac yn rhagweld y bydd llawer mwy o gyrsiau’n cael eu cynnig ar lefel ôl-16, ac yng Nghyfnod Allweddol 4 hefyd o bosib.